Mae'r tîm yn gweithio gyda plant a phobl ifanc hyd at 24 oed yng Ngwynedd ac Ynys Môn sydd angen cyngor, cymorth neu wybodaeth am gyffuriau a/neu alcohol.
Cysylltwch â ni am sgwrs os ydych yn:
- Poeni am eich defnydd o gyffuriau neu alcohol
- Eisiau siarad â rhywun
- Eisiau gwybodaeth neu gyngor am gyffuriau a/neu alcohol
- Poeni am aelod o'r teulu
- Eisiau newid.
Cysylltu â ni
Gallwch gyfeirio eich hun at y Gwasanaeth, neu gall rhiant, athro neu feddyg gwblhau cyfeiriad ar eich rhan (ar yr amod eich bod wedi rhoi caniatâd).
- Ffôn: 01248 683 029
- E-bost: Bedirsgor@gwynedd.llyw.cymru
Cyfrinachedd
Mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol. Ni fydd yr hyn ydych yn ei ddatgelu yn cael ei drafod ag unrhyw un arall, oni bai bod aelod o'r Tîm yn credu eich bod chi neu berson arall mewn perygl.