Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i edrych ar ôl plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u teulu agosaf oherwydd pethau fel salwch, esgeulustod neu gam-drin. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, gellir trefnu i blant a phobl ifanc fyw gyda theulu, ffrindiau a gofalwyr maeth.
Yn yr amgylchiadau hyn mae gennym gyfrifoldeb fel rhieni 'corfforaethol' neu 'gyhoeddus' i sicrhau bod plant sydd mewn gofal yn derbyn gofal tebyg i'r hyn y byddem yn disgwyl i rieni gofalgar ei ddarparu i'w plant eu hunain.
Sut ydym yn cefnogi plant mewn gofal?
Rydym yn rhoi blaenoriaeth i anghenion iechyd ac addysg y plentyn. Er mwyn ateb yr anghenion hyn, rhaid i ni gynnig amgylchedd lle mae'r plentyn yn teimlo'i fod yn perthyn ac yn barod i siarad â gofalwyr.
Rydym hefyd yn cefnogi plant a phobl ifanc i gynnal perthnasoedd sy'n bod yn barod â theulu a ffrindiau, i ddatblygu perthnasoedd newydd os mynnant, ac i ddilyn a datblygu diddordebau eraill.
Ydych chi'n edrych ar ôl plentyn rhywun arall?
Os felly, mae'n bosib eich bod yn ofalwr maeth preifat. Does dim rhaid i chi gael eich talu am hyn ond rhaid i chi ddweud wrth y Cyngor am y trefniant. Dylai rhieni'r plentyn wneud hynny 6 wythnos ymlaen llaw, ond mewn argyfwng mae gennych 48 awr i ddweud wrthym.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw fater neu i gael gwybodaeth.
- Ffôn: 01758 704455 (9:00 - 17:00, Llun - Gwener)
Ffôn y tu allan i oriau: 01248 353 551 (unrhyw amser arall ac ar Ŵyl y Banc) - E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru