Mae’r Tîm 16+ yn helpu pobl ifanc 16 - 24 oed sydd wedi bod mewn gofal i symud ymlaen a byw bywyd annibynnol a llwyddiannus.

Gall gadael gofal fod yn un o’r cyfnodau anoddaf ym mywyd person ifanc. Felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu paratoi’n drylwyr a’u cefnogi.

Mae gwaith y Tîm 16+ wedi'i seilio ar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gall y Tîm:

  • baratoi pobl ifanc ar gyfer gadael gofal, a'u cefnogi unwaith y byddant yn byw’n annibynnol
  • helpu'n ymarferol a rhoi cyngor ar anghenion llety, arian, addysg, hyfforddiant a gwaith
  • delio â cheisiadau am wasanaeth a chyfarfod â phobl ifanc fel bo’r angen
  • cefnogi pobl ifanc mewn cyfarfodydd
  • helpu pobl ifanc 16 a 17 oed sy'n ddigartref.

Mae’r Tîm yn gweithio gyda gofalwyr, asiantaethau tai a iechyd, a phobl broffesiynol eraill. Rydym yn gwrando ar ddymuniadau pobl ifanc ac yn seilio'r gefnogaeth ar yr hyn maen nhw ei eisiau.


Cysylltu â ni