Gan fod Gwynedd yn sir eang wledig mae trafnidiaeth yn hollbwysig i alluogi unigolion i fedru cymryd rhan mewn cymdeithas, i barhau i weithio, i gael mynediad i wasanaethau iechyd, a llawer mwy.
Gall hyn fod yn heriol, yn enwedig mewn rhai ardaloedd o Wynedd, lle na ellir cael mynediad at drafnidiaeth cyhoeddus fel yr angen. Mewn rhai ardaloedd anghysbell golygai hyn nad oes mwy na un bws cyhoeddus yr wythnos ar gael iddynt. Yng Ngwynedd, mae hyn yn golygu edrych ar wahanol bosibiliadau a'r cynnydd mewn mentrau cludiant cymunedol i ddiwallu’r angen.
Ein Cynllun Gweithredu
- Mae Canolfan Henblas yn gweithio ar sefydlu cynllun trafnidiaeth cymunedol ar gyfer eu hardal leol sef dalgylch Y Bala.
- Mae Partneriaeth Ogwen, Y Dref Werdd, Yr Orsaf ac O Ddrws i Ddrws yn gweithio hefo’i gilydd i benodi mwy o yrwyr cymunedol i gefnogi eu cynlluniau trafnidiaeth cymunedol a maent yn galw’r cyd-weithio yn Partneriaeth Trafnidiaeth Cymunedol Gwynedd.
- Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i recriwtio mwy o yrwyr gwirfoddol ac i ehangu eu gwasanaethau ar draws Gwynedd.
- Mae canfyddiadau Ardal Ni 2035 wedi cydnabod yr ardaloedd yng Ngwynedd sydd angen cefnogaeth o ran trafnidiaeth. Bydd partneriaid yn gweithio’n agos gyda’r cymunedau hynny i adeiladu ar y cyfleoedd a chefnogi’r cymunedau i gyflawni’r hyn sydd ei angen.