Mae cael gwahanol fathau o dai a mannau i unigolion fyw yn holl bwysig er mwyn cyfarch anghenion ein poblogaeth. Boed hynny yn gefnogaeth i aros adref yn y gymuned maent eisiau byw ynddi neu yn gynllun gofal ychwanegol.

Yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau bod amrywiaeth ar gael ar draws Gwynedd i gyfarch yr anghenion ac ein bod partneriaid yn parhau i gyd-weithio i ddarparu’r hyn sydd ei angen.

Ein Cynllun Gweithredu

  • Mae Rhannu Cartref Gwynedd am recriwtio mwy o unigolion i fod yn rhan o'r cynllun.
  • Mae Adra yn edrych ar eu hasedau presennol a beth sydd angen ei ddatblygu ar draws Gwynedd i gwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio.
  • Mae Adra hefyd yn gweithio ar eu rhestr addasiadau cartref i sicrhau y gallant gefnogi'r anghenion a’r addasiadau cartref sydd eu hangen yn nhai eu tenantiaid yn y ffordd orau bosibl.
  • Mae Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn cefnogi unigolion ar draws Gwynedd gydag addasiadau cartref a byddant yn parhau i gynnig eu gwasanaethau a chefnogaeth.
  • Mae Grŵp Cynefin yn datblygu cynllun cyffrous ym Mhenygroes gyda amryw o bartneriaid o’r enw ‘Canolfan Lleu’ - gweld mwy (yn agor mewn tab newydd)
  • Mae Adra hefyd wrthi yn datblygu mwy o gynlluniau sydd yn gynllun tebyg i Fron Deg, Pwllheli gyda Plas Penrhos ym Mangor fydd gyda 44 fflat a datblygiad yng Nghaernarfon a fydd gyda 18 fflat. Mae Cyngor Gwynedd ac Asiantaeth Tai Clwyd Alyn yn datblygu cynllun gofal ychwanegol ym Mhenrhos, Pwllheli.
  • Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud darn o waith i ddeall yr anghenion sydd eu hangen o ran asedau a chynlluniau tai ar draws y Sir

Astudiaethau achos