Mae parch at unigolion o bob oed yn bwysig ymhob cymuned ond drwy ddod â phobl o bob oed ynghyd â phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau gallwn sicrhau ein bod yn dysgu gwahanol genedlaethau am bwysigrwydd parchu ein gilydd.
Gellir hefyd adeiladu parch trwy godi ymwybyddiaeth am wahanol bethau megis dementia.
Mae cymuned gynhwysol yn golygu y pwysigrwydd i gael adeiladau, palmentydd, ac ardaloedd sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb.
Ein Cynllun Gweithredu
- Byddwn yn gweithio ar draws Gwynedd i gefnogi cymunedau i ddod yn Gymunedau Dementia Gyfeillgar wrth dderbyn cefnogaeth gan Dementia Actif Gwynedd, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a Chyngor Gwynedd.
- Mae Dementia Actif Gwynedd a Chyngor Gwynedd yn parhau i gynnig sesiynau Ffrindiau Dementia ar draws Gwynedd ar gyfer cymunedau, ysgolion a phwy bynnag sy’n dymuno derbyn y sesiwn wybodaeth.
- Pwrpas pontio’r cenedlaethau yw creu cysylltiadau newydd rhwng plant a phobl o bob oed. Bydd hyn yn cynyddu’r parch a’r ddealltwriaeth rhwng y cenedlaethau ac yn creu cymunedau cryfach. Bydd ysgolion, sefydliadau, cartrefi gofal a mentrau cymunedol eraill ar draws Gwynedd parhau i gydweithio i adeiladu ar gyfleoedd rhwng cenedlaethau.