Mae cymunedau'n ffynnu o gael mannau awyr agored ac adeiladau sy'n groesawgar i bawb. O hybiau cymunedol i erddi cymunedol i feinciau cyfeillgarwch mae sawl gwahanol beth o fewn cymuned a all gynnig hyn. Mae cael digon o’r lleoedd hyn y gall pobl o bob oed dreulio amser gyda’i gilydd yn adeiladu ar wydnwch cymunedol.
Mae partneriaid oed-gyfeillgar yn cynnig cyfleoedd amrywiol o dan y parth hwn a byddant yn parhau i gydweithio i ddatblygu cyfleoedd ac edrych ar ganfyddiadau Ardal Ni 2035 i lenwi’r bylchau
Ein Cynllun Gweithredu
- Mae hybiau cymunedol ar draws Gwynedd yn cael eu datblygu gyda deg wedi agor yn barod a thri arall yn y broses ddatblygol/sgyrsiau cychwynnol. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau cymunedol sy’n cynnig gwahanol fathau o gymorth a chefnogaeth i’w cymunedau lleol yn ogystal â rhai mannau awyr agored.
- Mae bwriad i ddatblygu gofodau cymunedol o fewn ysgolion Gwynedd lle byddant nid yn unig yn pontio’r ysgol leol gyda’r gymuned ond hefyd yn gaffaeliad mawr i gymunedau.
- Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio’n barhaus i wneud mwy o lwybrau cerdded ar draws Gwynedd yn hygyrch a diogel.
- Mae gan Antur Waunfawr brosiect o’r enw Beics Antur sy’n cynnig beiciau i’w llogi er mwyn i bawb fwynhau byd natur eu ardaloedd lleol ar gefn beic. Mae'r cynllun hwn yn cynnig llogi beic am ddim i bobl dros 65 oed. Mae eu casgliad o feiciau yn cynnwys e-feiciau, ochr yn ochr, tuk-tuks, treiciau, a beic sy'n addas ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn. Mae Antur Waunfawr yn edrych i gynyddu eu darpariaeth presennol gyda Beics Antur.
- Mae Adra, Grŵp Cynefin, a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru i gyd yn datblygu’r gallu i’w mannau cymunedol yn eu lleoliadau tai gofal ychwanegol gael defnydd gan y gymuned ehangach.
- Mae Antur Aelhaearn wedi prynu hen adeilad toiled cyhoeddus ac yn gobeithio ail-agor y toiled fel un fydd yn cael ei redeg gan y gymuned. Maent hefyd yn gobeithio agor campfa gymunedol drwy weithio gyda phartneriaid Gwynedd oed-gyfeillgar.
- Mae gan Y Dref Werdd brosiect Presgripsiwn Gwyrdd - maent yn rhannu’r canfyddiadau gyda partneriaid a llawer yn awyddus i ddysgu o’r prosiect.