Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i gydnabod yn ddigonol ac mae’n bwysig i'w gofio. Rydym yn annog pwysigrwydd parhau i weithio a gwirfoddoli os mai dyna yw dymuniad yr unigolyn.
Mae Gwynedd yn ardal wledig lle mae llawer o heriau o ran cyfranogiad dinesig a chyflogaeth, gan gynnwys trafnidiaeth. Gobeithiwn y bydd gweithio mewn ffordd oed-gyfeillgar yn datrys rhai o’r heriau.
Ein Cynllun Gweithredu
- Gwahanol bartneriaid i edrych ar y posibilrwydd o ymuno ag addewid cyflogwyr oed-gyfeillgar
- Mae gan Mantell Gwynedd swydd newydd a fydd yn helpu unigolion i gael cyfleoedd gwirfoddoli ar draws Gwynedd.
- Mae Grŵp Cynefin yn gobeithio recriwtio swyddog oed-gyfeillgar i weithio gyda rhai o’r heriau hyn a chefnogi eu tenantiaid.
- Mae Cymunedoli Cyf. yn edrych i gynyddu eu rhwydwaith o 33 aelodau gefnogi mentrau cymunedol gyflogi'n lleol a chefnogi gwirfoddolwyr lleol.
- Edrych mewn i gynlluniau gwirfoddol newydd gefnogi ein cymunedau.