Mae cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ac ar draws Gwynedd mae cymunedau yn cynnig gweithgareddau, lleoliadau a digwyddiadau i roi cyfleoedd i unigolion gymryd rhan yn gymdeithasol. Gall cyfranogiad cymdeithasol edrych yn wahanol ym mhob ardal leol a hefyd i bob unigolyn a gall amrywio o fod yn gyfle i gymryd rhan mewn fforymau a gweithdai i fynychu dosbarth crefft, i sgwrs dros baned. Mae ein partneriaid oed-gyfeillgar yn gwrando ar yr hyn y mae pobl lleol ei eisiau ac yn darparu ar sail hynny.

Mae rhai partneriaid hefyd yn cynnig grantiau bach cymunedol i helpu mentrau a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleoedd.

Ein Cynllun Gweithredu

  • Yn dilyn canfyddiadau ymgynghoriad Ardal Ni 2035 bydd Swyddogion Adfywio Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio gyda sefydliadau lleol, grwpiau, ac amrywiol bartneriaid oed-gyfeillgar i sicrhau bod datblygiadau'n cael eu gwneud mewn ardaloedd lle mae bylchau wedi'u hadnabod.
  • Bydd partneriaid Gwynedd oed-gyfeillgar yn cynnal digwyddiadau ar draws Gwynedd yn 2024-25 gan gynnwys digwyddiadau ‘Paratoi ar gyfer y Gaeaf’ a digwyddiadau ‘5 ffordd at les’. Byddant yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau, a fforymau pobl hŷn.
  • Mae pontio’r bwlch rhwng ysgolion a chartrefi gofal i sicrhau bod mwy o gyfleoedd pontio’r cenedlaethau ar draws Gwynedd yn waith sydd eisoes wedi dechrau a bydd llawlyfr pontio’r cenedlaethau yn cael ei rannu gyda phob ysgol, hwb cymunedol, cartref gofal, ac amrywiol bartneriaid i annog cysylltiadau a sut i fynd ati.
  • Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, ADRA, a Grŵp Cynefin i gyd yn gweithio ar gael eu hachredu yn y maes pontio’r cenedlaethau er mwyn gallu cynnig mwy o gyfleoedd cymunedol sy’n pontio’r cenedlaethau.
  • Bydd cynghorwyr lleol a staff o’n partneriaid oed-gyfeillgar yn parhau i fynd o gwmpas ardaloedd lleol a siarad ag unigolion. Bydd hyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau yn ogystal â cherdded o amgylch cymunedau a chael sgyrsiau gyda phobl ar stepen eu drws.

Astudiaethau Achos