Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu eithrio’n gymdeithasol ac yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i gynyddu. Mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn cyfathrebu gan ddefnyddio’r ffyrdd gorau o sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Mewn byd digidol mae hyn yn heriol ac mae sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau yn hanfodol.

Ein Cynllun Gweithredu

  • Bydd cyfleu’r hyn sy’n digwydd ar draws Gwynedd yn flaenoriaeth. Bydd cylchlythyr chwarterol oed-gyfeillgar (fersiwn ddigidol a phapur) yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol a ddiweddarir yn wythnosol yn rhannu gwybodaeth berthnasol i bobl hŷn. Byddwn hefyd yn archwilio'r defnydd o grŵp Whatsapp/Telegram i rannu gwybodaeth.
  • Bydd digwyddiadau oed-gyfeillgar yn cael eu cynnal yn lleol ar draws Gwynedd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu gan bartneriaid Gwynedd oed-gyfeillgar gyda chyfleoedd i rannu gwybodaeth, derbyn cefnogaeth swyddogion wyneb yn wyneb, sesiynau blasu gwahanol weithgareddau lleol a chyfle i gyfrannu a rhannu.
  • Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i ddeall pa wybodaeth sydd ar gael. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod yr holl wybodaeth a rennir yn gyfredol ac yn berthnasol ond hefyd yn rhannu'r wybodaeth gywir pan fo angen.
  • Bydd hybiau cymunedol, llyfrgelloedd, a phrosiect Gwynedd Ddigidol yn parhau i gynnig gwersi digidol i gynorthwyo mwy o unigolion i ddysgu sgiliau technoleg sylfaenol a fydd yn eu helpu i lywio’r byd ar-lein.
  • Mae partneriaid ar draws Gwynedd yn edrych ar y data maent yn ei rannu gyda phartneriaid. Bydd hyn yn cefnogi’r gallu i adrodd ar ddata a sut mae partneriaid yn rhannu ac yn cefnogi ei gilydd. Bydd hyn hefyd yn arwain at fwy o gyd-gynhyrchu, llai o ddyblygu a chyfle i adnabod y bylchau ar draws ein hardaloedd lleol.
  • Bydd Mantell Gwynedd yn parhau i adeiladu ar y ffordd y mae'n cyfathrebu gyda phartneriaid ar draws Gwynedd sy'n rhannu gwybodaeth gan wahanol bartneriaid yn ddyddiol.
  • Mae Cyngor Gwynedd yn arwain prosiect o amgylch Dewis.Cymru i gynyddu’r wybodaeth sydd ar gael ar y platfform ac i annog y defnydd o’r platfform.
  • Bydd sesiynau ar gynyddu incwm i bobl hŷn yn cael eu trefnu ar draws Gwynedd ym mis Medi/Hydref 2024. 8
  • Bydd Hyrwyddwyr Lles, Ymgynghorwyr Ynni a CAB (Cyngor ar Bopeth Gwynedd) yn cynnal sesiynau galw heibio i rannu gwybodaeth ac i gynnig cefnogaeth i bobl yn Siopau Gwynedd a mannau cyhoeddus Gwynedd.

Astudiaethau achos