Mae Gwynedd yn sir wledig ac felly mae mynediad at wasanaethau iechyd, ar adegau, yn gallu bod yn heriol, ond yn hanfodol. Gall gweithio'n agos mewn cymunedau gefnogi mynediad at wasanaethau iechyd.
Mae cefnogaeth gymunedol yn hanfodol mewn ardal fel Gwynedd ac mae sefydliadau, hybiau cymunedol i gyd yn gweithio'n agos gyda'u hardaloedd lleol i gefnogi yr anghenion lleol. Mae canfyddiadau diweddar Ardal Ni 2035 yn cefnogi cymunedau i adnabod y bylchau a’r hyn sydd ei angen.
Ein Cynllun Gweithredu
- Mae Catalydd Cymunedol (Community Catalyst) yn wasanaeth yng Ngwynedd sy’n cefnogi unigolion i gychwyn eu micro-fentrau hunain i gwrdd ag anghenion yr hyn sydd ei angen lleol.
- Mae Cyngor Gwynedd yn datblygu'r gwaith gyda Thaliadau Uniongyrchol drwy godi ymwybyddiaeth a cheisio cael mwy o unigolion sy'n gymwys i sicrhau eu bod derbyn cefnogaeth drwy'r system.
- Mae gan rai sefydliadau ar draws Gwynedd Bresgripsiynwyr Cymdeithasol sy’n gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid yn yr ardal leol honno (Mantell ac Antur Aelhaearn).
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn treialu hwb iechyd cymunedol Nhywyn. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn treialu hwb iechyd cymunedol Nhywyn.
- Mae Cyngor Gwynedd a sefydliadau ar draws wedi sefydlu dros 10 o hybiau cymunedol gyda thri lleoliad ychwanegol yn cael eu harchwilio hyn bryd.
- Mae Prosiect Llechen Lân yng Nghyngor Gwynedd yn ceisio deall sut i gwrdd ag anghenion cymdeithas sy'n heneiddio Ngwynedd a'u mynediad wasanaethau cymdeithasol ac iechyd.
- Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn gwario £1.2m ar addasiadau i ddatblygu Ystafelloedd Cymunedol o fewn ysgolion Gwynedd.
- Parhau i ddarparu sesiynau galw heibio costau byw ar draws Gwynedd gysylltu unigolion â sefydliadau a gwybodaeth.