Fel gofalwr, mae gennych hawl i gymorth ariannol fel lwfans gofalwyr, credydau treth a chymorth ariannol arall.

Budd-daliadau a chefnogaeth ariannol

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth ariannol a all fod ar gael i chi fel gofalwr ar gael ar wefan GOV.UK:

Gofalu am rhywun- GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r budd-daliadau isod hefyd ar gael i ofalwyr:

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gymorth ariannol drwy fynd i'r adran Cymorth Costau Byw ar y wefan hon: Cymorth Costau Byw


Eich hawliau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich hawliau chi fel gofalwyr ar wefan Carers Wales. Mae'r wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am eich hawliau os ydych yn gweithio ac yn gofalu am rhywun, beth allwch chi ei ddisgwyl pan mae person yn dod adra o'r ysbyty a llawer mwy:

Carers Wales (carersuk.org) (yn agor mewn tab newydd)


Talu am ofal / Taliadau uniongyrchol

Os ydi'r person rydych yn gofalu amdano yn gymwys am wasanaethau Gofal yn y Gymuned, mae'n bosib y gall y cynllun Taliadau Uniongyrchol eich helpu i fod yn fwy annibynnol.

Taliadau uniongyrchol


Cerdyn gofalwyr di-dâl

  • Cerdyn argyfwng i roi gwybod i bobl eich bod yn ofalwr.
  • Cydnabyddiaeth o’ch rôl fel gofalwyr all roi disgownts i chi i rai busnesau a lleoliadau lleol.
Cerdyn Gofalwyr Di-dâl Gwynedd