Cerdyn Gofalwyr Di-dâl
Mae’r cerdyn hwn yn gerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr di-dâl yn lleol. Mae’n dangos fod gan ddeilydd y cerdyn gyfrifoldebau gofal dros rywun sy’n sâl neu’n anabl.
Beth mae'r cerdyn yn ei wneud?
Cerdyn argyfwng i roi gwybod i bobl eich bod yn ofalwr.
Cydnabyddiaeth o’ch rôl fel gofalwyr all roi disgownts i chi i rai busnesau a lleoliadau lleol.
Noder: Nid yw’r cardiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal sy’n derbyn tâl.