Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl dros 18 oed- pobl sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n methu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd anabledd, salwch neu broblemau cam-drin sylweddau. Rhaid i’r gofalwr neu’r person y maent yn gofalu amdanynt fod yn byw yng Ngwynedd, Môn neu Conwy.
Nid yw’r cardiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal sy’n derbyn tâl.
Sut mae'r cerdyn yn gweithio?
Bydd eich llun a’ch enw yn ymddangos ar flaen y cerdyn, ynghyd â’r dyddiad y bydd y cerdyn yn dod i ben.
Bydd y cerdyn yn ddilys am 5 mlynedd.
Mae stribed ar gefn y cerdyn er mwyn ysgrifennu rhif ffôn person sydd wedi cytuno i fod yn gyswllt mewn argyfwng.
Gwneud cais am gerdyn
Mae angen i chi gofrestru gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gael eich cerdyn gofalwyr a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth bellach.
Nid yw’r cerdyn yn arwain at fudd ariannol. Fodd bynnag, gall roi mynediad i ddisgowntiau gan rai busnesau lleol neu fynediad am ddim i rai safleoedd. Gall Cynnal Gofalwyr ddarparu mwy o wybodaeth am y rhain neu gallwch ganfod mwy o fanylion uchod.
Efallai y bydd modd ei ddefnyddio i ddynodi eich statws fel gofalwyr mewn rhai sefydliadau cenedlaethol sy’n rhoi telerau ffafriol i ofalwyr.
Nag oes. Mae'r cerdyn ar eich cyfer chi, y gofalwr di-dâl ac nid y person sy'n derbyn gofal. Dim ond un cerdyn sydd ei angen.
Gwnewch cais am gerdyn newydd drwy gysylltu â Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr: