Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif priodas ar gyfer priodasau sydd wedi eu cynnal yng Ngwynedd ers 1837 a thystysgrifau partneriaethau sifil ers y flwyddyn 1994.
Os ydych yn chwilio am dystysgrif hŷn na 1837 cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.
Os yw priodas wedi'i chynnal mewn eglwys, neu mewn capel lle mae swyddogion lleol yn gweithredu ar ran y cofrestrydd, ni fydd Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd yn derbyn copi o’r dystysgrif nes bydd y gofrestr yn y capel/eglwys wedi ei chau. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.
Prynu copi o dystysgrif priodas / partneriaethau sifil
Cost
£12 yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
Sut mae gwneud cais am gopi?
Ffôn:
01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
Drwy'r post:
Lawrlwythwch y ffurflen isod:
- Prynu copi o dystysgrif priodas (yn agor mewn tab newydd)
- Prynu copi o dystysgrif partneriaeth sifil (yn agor mewn tab newydd)
a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i:
Cofrestryddion, Pencadlys y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.
Angen tystysgrif ar frys?
Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys.
Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Iau) bydd yr opsiwn yna i chi unai gasglu y tystysgrif o Siop Gwynedd yng Nghaernarfon (ar ôl 3 o'r gloch yr un diwrnod), neu cael y tystysgrif wedi ei bostio ‘1st class – Signed For’ ar yr un diwrnod.
Cost am gais brys yw £38.50 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Iau).
Mwy o wybodaeth
Ffoniwch: 01766 771000