Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif geni ar gyfer unrhyw un sydd wedi eu geni yng Ngwynedd ers 1837.
Os ydych yn chwilio am wybodaeth cyn 1837, cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.
- Pa wybodaeth sydd arni?
Mae’r dystysgrif geni safonol yn nodi enw, rhyw, dyddiad geni, ardal yr enedigaeth, cyfeiriad geni'r plentyn a manylion y rhieni. - Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni safonol?
Byddwch angen tystysgrif geni safonol er mwyn gwneud cais am nifer o brosesau swyddogol, gan gynnwys gwneud cais am basbort, pensiwn neu visa. - Cost:
£12.50 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf. - Sut mae gwneud cais am gopi?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
- Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni safonol(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd) a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Pa wybodaeth sydd arni?
Enw'r plentyn, rhyw, dyddiad geni ac ardal yr enedigaeth yn unig. - Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni fer?
Bydd yn ddigonol er mwyn hawlio budd-dal plant ond bydd nifer o brosesau swyddogol eraill yn gofyn am gopi o dystysgrif llawn. - Cost:
£12.50 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf. - Sut mae gwneud cais am gopi?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd.
- Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni fer(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd) a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
- Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys.
Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Iau) bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i bostio y dystysgrif gyda post dosbarth cyntaf ar yr un diwrnod. Nid yw'n bosib casglu y dystysgrif o'r Swyddfa ar hyn o bryd.
Cost am gais brys yw £38.50 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
Ni fydd yn bosib casglu'r dystysgrif o'r Swyddfa.
Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Iau
Mae’r Cyngor yn dal copïau o dystysgrifau geni gwreiddiol (gyda manylion y rhieni gwaed) yn unig. Mae posib defnyddio’r dystysgrif hon ar gyfer ymchwil teulu.
I wneud cais am broses swyddogol (e.e. am basbort, pensiwn, visa) byddwch angen y dystysgrif mabwysiadu sydd yn cynnwys manylion y rhieni mabwysiedig.
I brynu copi o'r tystysgrif mabwysiadu, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 0300 123 1837.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01766 771000.