Cofrestru baban sydd wedi ei eni yng Ngwynedd
Gallwch gofrestru genedigaeth baban sydd wedi ei eni yng Ngwynedd yn unrhyw un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y cofrestru’n cymryd tua 30 munud.
Trefnu apwyntiad i gofrestu genedigaethNeu ffoniwch 01766 771000.
Sicrhewch eich bod yn dod â’r canlynol gyda chi i’ch apwyntiad i wirio a llofnodi’r gofrestr:
- Beiro ysgrifennu du neu glas ar gyfer llofnodi
- Prawf adnabod ar gyfer y ddau riant fel y gallwch wirio’r wybodaeth a gofnodir yn erbyn eich manylion
Cofiwch fod tudalen y gofrestr yn ddogfen gyfreithiol a’i bod yn amhosibl newid unrhyw wallau y sylwir arnynt ar ôl llofnodi heb gais cywiro ffurfiol. Bydd angen talu ffi ystyried o £83 neu £99 am bob cais am gywiriad a rhaid ei anfon i’n prif swyddfa ynghyd â thystiolaeth o’r wybodaeth gywir er mwyn i benderfyniad gael ei wneud. Gall gymryd misoedd i’w gymeradwyo, felly mae’n hanfodol eich bod yn gwirio bod yr holl wybodaeth ar y gofrestr yn gywir cyn llofnodi.
Canslo apwyntiad: os na fyddwch yn gallu mynychu apwyntiad, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Ffoniwch 01766 771000.
Cofrestru baban wedi ei eni y tu allan i Wynedd
Os ydych yn byw yng Ngwynedd ond bod y baban wedi ei eni y tu allan i Wynedd, gallwch roi datganiad o’r enedigaeth yn unrhyw un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y swyddfa gofrestru yna’n anfon yr wybodaeth ymlaen i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal ble cafodd y baban ei eni.
Trefnu apwyntiad i gofrestu genedigaethNeu ffoniwch 01766 771000.
Canslo apwyntiad: os na fyddwch yn gallu mynychu apwyntiad, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Ffoniwch 01766 771000.
Mae hefyd yn bosib cofrestru’n uniongyrchol gyda’r swyddfa gofrestru yn yr ardal ble cafodd y baban ei eni. I ddod o hyd i’r rhanbarth cofrestru ewch ar Gov.uk (yn agor mewn tab newydd).
Y dystysgrif geni
Pan fyddwch yn cofrestru genedigaeth baban, cynigir i chi brynu tystysgrif fer neu lawn. Mae'r dystysgrif fer yn ddigonol er mwyn hawliau budd-dal plant, ond bydd nifer o brosesau swyddogol eraill yn gofyn am gopi o'r dystysgrif llawn.
- Cost Tystysgrif geni llawn: £12.50 am bob copi
- Sut mae talu? Gallwch dalu yn ystod yr apwyntiad gydag arian parod, cerdyn debyd / credyd, siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Gwynedd’.
PWYSIG: Os yw'r baban wedi ei eni y tu allan i Wynedd a'ch bod yn rhoi datganiad statudol o'r enedigaeth, bydd rhaid talu gyda siec neu archeb bost yn daladwy i’r rhanbarth cofrestru ble cafodd y baban ei eni (nid i Gyngor Gwynedd). Gall y cofrestrydd eich cynghori ar y diwrnod.
Gallwch brynu copïau ychwanegol o’r dystysgrif geni ar unrhyw adeg. I weld prisiau copïau ychwanegol: prynu copi o dystysgrif geni.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.