Daeth y cyfnod i chi rannu'ch barn ar y GDMC i ben ar 3 Tachwedd, 2025.
Beth oedd pwrpas yr arolwg?
Roedd cyfnod 3 mlynedd y Gorchymyn yn dod i ben, ac roedd Cyngor Gwynedd yn awyddus i ymgynghori gyda’r gymuned lleol – (y rhai sydd yn byw, gweithio ac ymweld a’r ardal) ar y bwriad i ymestyn y Gorchymyn am gyfnod o 3 mlynedd arall.
Gwybodaeth am Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Bangor
Cyfnod yr arolwg
20 Hydref 2025 - 3 Tachwedd 2025.
Camau nesaf
Mae GDMC Bangor bellach wedi cael ei ymestyn. Gallwch ddarganfod y Gorchymyn o dan 'Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus' ar Diogelwch Cymunedol (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:
- E-bost: DiogelwchCymunedol@gwynedd.llyw.cymru
- Rhif ffôn: 01766 771 000