Daeth yr ymgynghoriad yma i ben ar y 28 Tachwedd, 2025.
Beth oedd pwrpas yr ymgynghoriad?
Roedden ni eisiau sicrhau bod y “Compact” yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r gymuned. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gallwch helpu i sicrhau bod y cytundeb yn:
- Ymarferol ac ystyrlon
- Yn cefnogi cydweithio teg ac agored
- Yn cynnig manteision go iawn i gymunedau lleol
Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio’r fersiwn derfynol o’r Compact, a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor a’r Trydydd Sector.
Cyfnod ymgynghori
16 Hydref 2025 - 28 Tachwedd 2025
Datganiad Preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Byddwn yn rhannu atebion yr holiadur gyda Mantell Gwynedd at bwrpas eu dadansoddi a bydd unrhyw adborth yn mynd at ddibenion adolygu y cytundeb yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am 12 mis ar ôl dyddiad cau'r holiadur.
Diolch yn fawr am eich cyfraniad.