Adroddiad Cwmpasu o Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn y camau cynnar o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Bydd y CDLl yn gosod fframwaith ar gyfer datblygu a defnydd tir yn yr ardal ar gyfer y cyfnod 2024-2039.

Er mwyn sicrhau fod y CDLl yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy, llesiant, a gofynion eraill yn ymwneud â chydraddoldeb, iechyd, yr Iaith Gymraeg, a’r amgylchedd, mae Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn cael ei baratoi.

Cam cyntaf y broses ACI yw ymgynghori â chyrff statudol ar Adroddiad Cwmpasu’r ACI. Ar yr un pryd, gwahoddir sylwadau gan rhanddeiliaid eraill ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r Adroddiad Cwmpasu yn darparu gwybodaeth gwaelodlin i lywio’r camau nesaf o baratoi’r Cynllun. Nid yw’n cynnwys polisïau manwl nac ychwaith dynodiadau safle.


Rhoi sylwadau

Gallwch gyflwyno eich sylwadau ar yr Adroddiad Cwmpasu drwy lawrlwytho y ffurflen sylwadau isod:

Ffurflen sylwadau Adroddiad Cwmpasu (yn agor mewn tab newydd)

Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau i:

  • polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru neu;
  • Gwasanaeth Polisi Cynllunio, Tirwedd a Natur, Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE

Rhaid dychwelyd y ffurflen sylwadau erbyn 5pm, 7 Ionawr 2027.