"Compact" (Cytundeb Partneriaeth) Cyngor Gwynedd a'r 3ydd Sector

Rydym am sicrhau bod y “Compact” yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r gymuned.

Daeth yr ymgynghoriad yma i ben ar y 28 Tachwedd, 2025.

Beth oedd pwrpas yr ymgynghoriad?

Roedden ni eisiau sicrhau bod y “Compact” yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r gymuned. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gallwch helpu i sicrhau bod y cytundeb yn:

  • Ymarferol ac ystyrlon
  • Yn cefnogi cydweithio teg ac agored
  • Yn cynnig manteision go iawn i gymunedau lleol

Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio’r fersiwn derfynol o’r Compact, a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor a’r Trydydd Sector.

Cyfnod ymgynghori

16 Hydref 2025 - 28 Tachwedd 2025

Canlyniad yr Ymgynghoriad

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y Compact rhwng Cyngor Gwynedd a'r Trydydd Sector. Defnyddiwyd yr adborth a dderbyniwyd i fireinio cynnwys y Compact, gyda’r sylwadau'n helpu i gryfhau'r ddogfen ac i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau'r sector a chymunedau Gwynedd.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mabwysiadodd Cabinet Cyngor Gwynedd y Compact newydd yn ei gyfarfod ar 15 Medi 2026. Mae'r cytundeb yn gosod egwyddorion a disgwyliadau clir ar gyfer cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a'r Trydydd Sector er budd trigolion Gwynedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad y Cabinet: Adroddiad Cabinet - Compact

Mae’r fersiwn derfynol o’r Compact ar gael yma: Y Cytundeb Compact


Datganiad Preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Byddwn yn rhannu atebion yr holiadur gyda Mantell Gwynedd at bwrpas eu dadansoddi a bydd unrhyw adborth yn mynd at ddibenion adolygu y cytundeb yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am 12 mis ar ôl dyddiad cau'r holiadur.

Diolch yn fawr am eich cyfraniad.