Y sefyllfa cyn penderfyniad gwrandawiad 27 Tachwedd 2025

Cefndir

Fel rhan o fesurau i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio.

Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio (yn agor mewn tab newydd) yn golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd) gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.

Yn dilyn cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ym mis Awst a Medi 2023, ac ystyried y sylwadau (yn agor mewn tab newydd) a dderbyniwyd, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Cyflwynwyd adroddiad (yn agor mewn tab newydd) am hyn i Gabinet y Cyngor ar 16 Gorffennaf 2024.

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (yn agor mewn tab newydd) yw diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y newid defnydd materol y canlynol:

  • Prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.

Gweld diffiniadau llawn dosbarth defnydd

Mae papur wedi cael ei baratoi sydd yn amlygu’r amgylchiadau eithriadol er mwyn cyfiawnhau’r bwriad. Gweld Papur cyfiawnhau cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 (yn agor mewn tab newydd)

Ymhellach mae Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd wedi cael ei baratoi, bydd yr asesiad yn cael ei addasu yn ystod y broses o baratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Gweld Asesiad Effaith Integredig (yn agor mewn tab newydd)

Cwestiynau cyffredin

Mwy o wybodaeth

I ddarllen y diweddaraf am Erthygl 4, ewch i Cyfarwyddyd Erthygl 4