Mae dosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:
| Dosbarth Defnydd | Eglurhad |
|---|---|
| Dosbarth C3.Tŷ Annedd; Prif Gartrefi | Defnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan –(a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd sydd yn nosbarth C4). Dehongli Dosbarth C3: |
| Dosbarth C5.Tŷ Annedd; Cartrefi eilaidd | Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai gan –(a) un person neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn dosbarth C4). Dehongli Dosbarth C5: |
| Dosbarth C6.Llety gosod tymor byr | Defnyddio tŷ annedd fel llety gosod tymor byr masnachol am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau (ar gyfer pob cyfnod meddiannu). |