Yma yng Ngwynedd, mae’r tîm yn gyfrifol am:
- cynnig cyngor ar faterion cynllunio mwynau a gwastraff, e.e. gweithgareddau chwarelu, datblygiadau rheoli gwastraff fel cyfleusterau ailgylchu, compostio ac ati
- ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer gweithgareddau cloddio ac ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Mwy o wybodaeth: Gwneud cais cynllunio
- monitro safleoedd i sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau
- ymchwilio i gwynion lle honnir bod rheolau cynllunio yn cael eu torri. Mwy o fanylion: Cwynion: torri rheolau cynllunio
- rhoi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Lleol ar faterion polisi cynllunio mwynau a gwastraff
- rhoi mewnbwn i faterion cynllunio mwynau a gwastraff rhanbarthol a chenedlaethol
Am ragor o wybodaeth am y drefn gynllunio yng Ngwynedd, ewch i: Cynllunio
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio (yn agor mewn tab newydd)(Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)
Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. - Ffôn: 01766 771000
Neu gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru yn uniongyrchol wrth e-bostio: