Tŷ Gwynedd Morfa Nefyn

Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn datblygu naw chartref fforddiadwy newydd ger stad Maes Twnti, Morfa Nefyn.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  • Pedwar cartref dwy ystafell wely
  • Pum cartref tair ystafell wely

Bydd Cyngor Gwynedd yn bwrw ymlaen i godi naw tŷ newydd ger stad Maes Twnti, Morfa Nefyn, wedi i’r datblygiad arfaethedig dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025. Unwaith y byddant yn barod, bydd y tai yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Cartrefi Fforddiadwy Tai Teg.

I weld y meini prawf cymhwysedd ac i gofrestru diddordeb, ewch i wefan Tai Teg:

Tai Teg

Gweld y cais cynllunio

 

Cynllun Tŷ Gwynedd

Mae’r cartrefi newydd ym Morfa Nefyn yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sef cynllun datblygu tai gan Gyngor Gwynedd sy’n anelu at ddarparu 90 o dai fforddiadwy i bobl leol ar draws y sir. Amcan y cynllun hwn yw cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Ein gweledigaeth yw datblygu tai fforddiadwy o safon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:

  • Fforddiadwy – tai ar gael i'w prynu a'u rhentu am bris fforddiadwy.
  • Addasadwy – dyluniadau hyblyg y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion sy’n newid dros amser.
  • Cynaliadwy – defnydd o ddeunyddiau ecogyfeillgar a chadwyni cyflenwi lleol.
  • Ynni-effeithiol – rhoi technoleg fodern ar waith i leihau ôl troed carbon a lleihau costau ynni.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sy’n anelu i adeiladu, prynu neu adnewyddu dros 2,000 o gartrefi dros oes y Cynllun.

Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd

 

Sut i ymgeisio?

I wneud cais am un o’r cartrefi hyn, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Tai Teg. Er nad yw'r cartrefi ar gael eto, mae cofrestru'n gynnar yn sicrhau y gallwch weithredu'n gyflym pan fydd ceisiadau'n agor.

Ffurflen gais Tai Teg

 

Y diweddaraf am ddatblygiad Tŷ Gwynedd ym Morfa Nefyn 

 

Darllenwch y datganiadau i’r wasg ddiweddaraf:

Am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook.