Diogelu Gosodiadau ECO4

Diogelu Gosodiadau ECO4 – Yn dilyn Consumer Energy Solutions (CES) Ltd yn mynd i ddwylo gweinyddwyr 

 

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod a’i wneud:

1. Pwy i gysylltu â nhw yn gyntaf

Mae pob cais a oedd gyda Consumer Energy Solutions bellach wedi’i drosglwyddo i City Energy Network. Cysylltwch â 02920 499183 neu info@cityenergy.co.uk

Am gwestiynau ynghylch beth i'w wneud ym mhob cam o'r broses osod, gweler y wybodaeth ar ddiwedd y dudalen hon.

2. Cysylltu â Trustmark (llwybr uwchgyfeirio allweddol)

Rhaid i bob gosodwr ECO4 fod wedi’i gofrestru gyda TrustMark.

Bydd Trustmark yn gallu:

  • Cadarnhau manylion prosiect ECO4
  • Adnabod y cyflenwr ynni a gyllidodd y gwaith
  • Sbarduno’r broses Cydymffurfio a Chywiro, hyd yn oed os ydi’r gosodwr wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr

Byddwch angen:

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Enw’r gosodwyr (Consumer Energy Solutions / CES)
  • Dyddiad gosod bras
  • Disgrifiad o’r diffygion a nifer yr ymweliadau aflwyddiannus gan y cwmni

Gellir cysylltu â TrustMark ar 0333 555 1234 neu dros e-bost info@trustmark.org.uk. I godi anghydfod i’w ddatrys, defnyddiwch: disputes@trustmark.org.uk

 

3. Gwarant â Chefnogaeth Yswiriant (IBG)

Rhaid i’r rhan fwyaf o osodiadau ECO4 fod â gwarant wedi’i chefnogi gan yswiriant, yn union ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn.

Gofynnwch wrth Trustmark:

  • A oes IBG wedi’i gofrestru
  • Pwy yw’r yswiriwr

Os oes IBG yn bodoli, gall yr yswiriwr:

  • Ariannu gwaith atgyweirio
  • Penodi gosodwr newydd
  • Talu iawndal os nad ydi adfer yn bosibl

4. Uwchgyfeirio at y Cyflenwr Ynni (Deiliad y Rhwymedigaeth)

Unwaith y bydd wedi’i nodi, gwnewch gŵyn ffurfiol i’r cyflenwr ynni a gyllidodd y gwaith.

Pwyntiau allweddol i’w cynnwys:

  • Nid yw’r gwaith a ariannwyd drwy ECO4 erioed wedi gweithio’n iawn
  • Llinell amser o fethiannau cyfathrebu
  • Mae’r gosodwr bellach wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr
  • Gofyn am gywiriad neu iawndal o dan rwymedigaethau ECO4

Mae cyflenwyr yn parhau i fod yn atebol hyd yn oed pan fydd gosodwyr yn rhoi’r gorau i fasnachu.


5. Llinell Gymorth Ofgem: 0808 169 4447 (os nad yw’r cyflenwr yn gweithredu)

Os nad yw'r cyflenwr ynni yn datrys y broblem:

  • Uwchgyfeirio i Ofgem
  • Cyfeiriwch at fethiant i gydymffurfio â gofynion diogelu defnyddwyr ECO4

Nid yw Ofgem yn rheoli gosodiadau’n uniongyrchol, ond maent yn sicrhau bod rhwymedigaethau cyflenwyr sydd wedi methu yn cael eu trosglwyddo neu eu rheoli.


Parhad y Prosiect

Bydd Cyflenwr y Dewis Olaf yn cymryd drosodd targedau ECO4, gan barhau’n aml i ariannu prosiectau a ddechreuwyd gan y cyflenwr sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Gwarantau

  • Inswleiddio: fel arfer, 25+ mlynedd
  • Boeleri: fel arfer, 2+ mlynedd

Os yw eich gosodwr wedi mynd allan o fusnes, cysylltwch â darparwr y warant yn uniongyrchol.


Monitro a gorfodaeth

Mae Ofgem yn gweithio gydag ymarferwyr ansolfedd i sicrhau triniaeth deg.


Cyswllt y Gweinyddwr

James Saunders – KR8 Advisory Ltd
E-bost: jimmy.saunders@kr8.co.uk
(Darparu atebion arloesol ar gyfer sefyllfaoedd ariannol cymhleth)


Adrodd twyll

Anfonwch e-bost at dîm gwrth-dwyll Ofgem: counterfraud@ofgem.gov.uk

 

6.  Cefnogaeth Uniongyrchol a Chyngor

 

7.  Llywodraeth y DU

  • Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1144
    Gallant gynghori ar eich hawliau a chyfeirio cwynion at Safonau Masnach os oes angen.

Yr adran sy’n gyfrifol am ECO ydi’r ‘Adran Diogeledd Ynni a Sero Net’, neu DESNZ. Gellir cysylltu â nhw drwy: complaints@energysecurity.gov.uk

 

8. Y llwybr cyfreithiol (y dewis olaf)

Os oes colled ariannol sylweddol neu ddifrod i eiddo wedi digwydd:

  • Gwiriwch a oes gan weinyddwr CES unrhyw yswiriant sy’n weddill
  • Gall Llys Hawliadau Bach fod yn opsiwn yn erbyn yr yswiriwr neu’r deiliad rhwymedigaeth — nid CES yn uniongyrchol.


Beth i’w wneud ar bob cam o’r broses

Isod mae senarios yn seiliedig ar wahanol gamau'r broses ymgeisio a gosod:

Cysylltwch â City Energy i gadarnhau os yw’r gosodwr newydd wedi’i benodi. Efallai y bydd angen i chi aros am gyhoeddiadau pellach gan y llywodraeth ynghylch cyllid grant, naill ai i wneud cais pellach neu i gael y cais presennol hwn wedi’i brosesu.

Cysylltwch â City Energy i wirio’r cynnydd gyda’r cwmni. Mae’r cwmni wedi rhoi gwybod eu bod mewn cysylltiad â phob defnyddiwr sydd yn y sefyllfa hon er mwyn cwblhau’r gwaith. Gall hyn olygu na fydd pob mesur a argymhellir yn cael ei osod, ond bydd y rhai sydd wedi’u rhannol gwblhau yn cael eu gorffen.

Mae’r busnes ar hyn o bryd yn gweithio drwy hyn gyda’r rheoleiddiwr er mwyn cofrestru’r achosion sy’n weddill.

Cyngor i ddefnyddwyr yw edrych yn eu pecyn trosglwyddo a chysylltu â’r warant yswiriant a nodir yn y pecyn. Os na all y defnyddiwr ddod o hyd i’r dogfennau hyn, gallant gysylltu â’r canlynol i weld a allant roi cyngor ar ble mae eu gwarant wedi’i chofrestru:

HIES Consumer Code: Renewable Energy Installation Protection

Cysylltwch â TrustMark. Gallwch eu ffonio ar 0333 555 1234 neu anfon e-bost at disputes@trustmark.org.uk

Y cyngor yw sicrhau bod unrhyw ddebyd uniongyrchol i’r busnes yn cael ei ganslo Byddai angen i'r defnyddiwr gysylltu â'r gweinyddwr isod a chofrestru fel credydwr os oes arian yn ddyledus iddynt am wasanaeth na ellir ei ddarparu neu nad yw wedi'i ddarparu:

James Saunders a Michael Lennon yn cael eu penodi: C/O Kr8 Advisory Ltd, The Lexicon, 10-12 Mount Street, Manchester M2 5NT

James Saunders – KR8 Advisory Ltd e-bost: jimmy.saunders@kr8.co.uk