Systemau di-wifr ysgolion Gwynedd

Mae Safonau Digidol Addysg Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r datrysiad arfer gorau ar gyfer anghenion digidol ysgolion. Defnyddir cysylltedd gwifrau a diwifr, a dilynir Safonau Rhwydweithio Di-wifr.

Mae materion cymhleth a thechnegol fel effaith ymbelydredd electromagnetig radio yn gofyn am ffynonellau cyngor awdurdodol. Oherwydd hyn, sefydlodd llywodraeth y DU y Grŵp Cynghori ar Ymbelydredd Heb ïoneiddio (AGNIR). Mae casgliadau'r AGNIR yn ddogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae'r corff hwn wedi cynhyrchu'r asesiad risg mae’r llywodraeth wedi'i gyhoeddi, a mae Cyngor Gwynedd yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Donnau Radio, yn yr achos hwn Di-Wifr.

“Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor arbenigol, nid oes angen i aelodau’r cyhoedd gymryd unrhyw gamau arbennig i leihau cyswllt â’r lefelau isel o donnau radio o rwydweithiau ac offer Di-Wifr (e.e. fel y defnyddir mewn lleoliadau cyhoeddus), mesuryddion clyfar neu orsafoedd sylfaen ffonau symudol.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

"Ar sail gwybodaeth wyddonol gyfredol, mae amlygiad o offer Di-Wifr yn bodloni canllawiau rhyngwladol. Nid oes tystiolaeth cyson o effeithiau iechyd amlygiad radio sydd islaw'r lefelau canllaw a dim rheswm pam na ddylai ysgolion ac eraill ddefnyddio’r offer Di-Wifr."

Mae yswiriant atebolrwydd Cyngor Gwynedd yn darparu indemniad ar gyfer atebolrwydd cyfreithiol y Cyngor am anaf trydydd parti neu ddifrod i eiddo trydydd parti. Nid oes unrhyw waharddiadau yn y polisi mewn perthynas ag anaf EMF neu amlygiad drwy lwybrydd Di-Wifr/5G.

Mae’r dechnoleg y mae’r Cyngor yn ei defnyddio yn cefnogi safonau Di-Wifr (hyd at 802.11ax ar 2.4 GHz a 5 GHz), ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw dechnoleg Amledd Symudol (3G/4G/5G). Pan mae'r GIG yn cyfeirio at risg carsinogen Dosbarth 2b, maent yn cyfeirio at ffonau symudol, ac nid tuag at unrhyw dechnoleg Di-Wifr sydd mewn defnydd yn ein hysgolion (a mannau eraill) sy’n defnyddio ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio.

Mae Pwyntiau Di-Wifr sydd wedi'u gosod wedi'u cynllunio i gydymffurfio â'r safonau cenedlaethol a rhyngwladol canlynol ar Amlygiad Dynol i Amleddau Radio:

  • Cod 47 Rheoliadau Ffederal yr UD Adran 2 Is-adran J
  • Sefydliad Safonau Cenedlaethol America (ANSI) / Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig / IEEE C 95.1 (99)
  • Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Ymbelydredd Heb i’w Ïoneiddio (ICNIRP) 98
  • Gweinidogaeth Iechyd (Canada) Cod Diogelwch 6. Cyfyngiadau ar Amlygiad Dynol i Feysydd Amledd Radio yn yr ystod 3KHz i 300GHz
  • Safonau Diogelu Ymbelydredd Awstralia

Mae’r Pwyntiau Di-Wifr yma wedi’u dylunio i beidio â mynd y tu hwnt i’r terfynau ar gyfer dod i gysylltiad â thonnau radio (meysydd electromagnetig amledd radio) argymhellir gan ganllawiau rhyngwladol. Datblygwyd y canllawiau gan Sefydliad Gwyddonol annibynnol (ICNIRP) ac yn cynnwys ffin diogelwch sylweddol dyluniwyd i sicrhau diogelwch pawb, waeth beth fo’u hoedran a’u hiechyd. Yn ogystal, mae’r Pwyntiau Di-Wifr hyn wedi’u gosod y tu hwnt i’w cyrraedd, a tu hwnt i’r terfynau gofynnol a ddiffinnir gan ganllawiau ICNIRP.

Mwy o wybodaeth gan OFCOM. 

Dylai unrhyw un sydd ag ymholiad pellach ar y mater hwn gysylltu â Grŵp Cynghori ar Ymbelydredd Heb ioneiddio (AGNIR) llywodraeth y DU (wedi'i gyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Lloegr trwy eu pwynt cyswllt ymholiadau cyffredinol).