Tapio mlaen / tapio ffwrdd

Mae technoleg Tapio Mlaen / Tapio Ffwrdd yn cael ei dreialu ar rhai o’n gwasanaethau bws lleol.

Y prif bethau i wybod am Tapio Mlaen / Tapio Ffwrdd 

  • Defnyddir ‘Tap on-Tap off’ i godi tâl am docyn Sengl Oedolyn.
  • Rhaid i chi dapio ar y peiriant tocynnau wrth fynd ar y bws ac mae’n rhaid i chi dapio i ffwrdd ar y Darllenydd Tap Off neu'r peiriant tocynnau wrth i chi ddod oddi ar y bws.
  • Os ydych yn gwneud amryw o deithiau, mae'r system yn codi tâl wedi'i gapio'n awtomatig
  • Ar ôl cyrraedd y cap, ni fyddwch yn talu am unrhyw deithiau pellach yn ystod y cyfnod hwnnw, ond dylech barhau i Tap on-Tap off.
  • Nid yw prisiau tocynnau dychwelyd wedi'u capio ar hyn o bryd gan ddefnyddio Tap on-Tap off. Felly, dylid prynu tocyn dwyffordd gan y gyrrwr fel y byddech fel arfer.
  • Os ydych am brynu tocyn papur/ dychwelyd, peidiwch â rhoi eich cerdyn ar y peiriant tocynnau wrth fynd ar y bws. Rhaid i’r gyrrwr osod y tocyn ar y peiriant tocynnau yn gyntaf, neu bydd Tap on yn cael ei recordio!
  • Wrth i fwy o gwmnïau bysiau yn yr ardal fynd yn fyw gyda Tap on-Tap off, bydd capiau prisiau gweithredwyr, megis ffî tocyn 1Bws, yn cael eu cymhwyso ar draws pob cwmni bysiau.