Cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin: Nodiadau Canllaw

Mae'r nodiadau canllaw hyn yn rhoi gwybodaeth i chi i'ch helpu i gwblhau eich cais ar-lein am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin. Darllenwch y nodiadau canllaw hyn yn ofalus cyn llenwi'r ffurflen.

Pwysig

  • Os byddwch yn llenwi'r ffurflen gais yn gywir y tro cyntaf, gallwn ei phrosesu'n gynt.
  • Ni fydd cais y bernir ei fod yn anghyflawn yn cael ei brosesu nes bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chyflwyno.
  • Cyn llenwi'r ffurflen gais fe'ch argymhellir i gysylltu â ni am gyngor.

 

Nodiadau Cyfarwyddyd

1.1     Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi arweiniad ar y gweithdrefnau i’w dilyn wrth wneud cais am waith ar gyrsiau dŵr cyffredin o fewn Cyngor Gwynedd, dan ddarpariaethau Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991.

1.2     Amlinellir hefyd y materion y bydd y Cyngor yn eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu cais.

1.3     Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â’r ffurflen gais ar-lein ar gyfer Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin a pholisi’r Cyngor ynglŷn â cwlfertu (ar gael ar wefan y Cyngor). 

Nodyn: Dylai ymgeiswyr wirio gyda'r Cyngor a oes angen caniatâd cynllunio ar eu cynigion o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Efallai y bydd angen caniatâd ychwanegol hefyd ar gyfer gwaith ar dir trydydd parti.

2.1     O dan ddarpariaethau Deddf Draenio Tir 1991 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae gan Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol bellach ddyletswydd i reoli gweithgareddau penodol a allai gael effaith andwyol ar berygl llifogydd a’r amgylchedd. 

2.2     I gwrdd â gofynion y Ddeddf, rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu gwneud gwaith sy'n debygol o effeithio ar lif cwrs dŵr cyffredin, addasu strwythur presennol, neu osod cwlfert gyflwyno manylion eu cynigion i'r Cyngor. Cyn caniatáu i waith fynd yn ei flaen, gall y Cyngor osod amodau rhesymol ar unrhyw gynigion y mae’n eu hystyried yn angenrheidiol i fodloni ei ddyletswyddau amgylcheddol ac i reoli perygl llifogydd.

2.3     Rhaid i berchnogion glannau afon, datblygwyr, a phawb arall sy'n bwriadu gwneud gwaith o'r fath, felly, gael Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin gan y Cyngor cyn i'r gwaith ddechrau.

2.4     Darperir manylion gweithgareddau sydd angen eu caniatáu (a hefyd gweithgareddau sydd angen eu caniatáu dan Is-ddeddfau Draenio Tir y Cyngor) ar wefan y Cyngor.

3.1     Mae’r term ‘cwrs dŵr’, fel y’i diffinnir yn Neddf Draenio Tir 1991 yn cynnwys pob afon a nant a phob ffos, draen, hollt, cwlfert, cloddiau, llifddorau, carthffosydd (ac eithrio carthffosydd cyhoeddus o fewn ystyr Deddf y Diwydiant Dŵr 1991) a thramwyfeydd, y mae dŵr yn llifo drwyddynt. 

3.2     Mae’r term ‘cwrs dŵr cyffredin’, fel y’i diffinnir yn Neddf Draenio Tir 1991, yn gwrs dŵr nad yw’n rhan o brif afon. Mae gan y Cyngor bwerau rheoleiddio mewn perthynas â chyrsiau dŵr cyffredin o fewn ei ffiniau.

3.3     Yng Nghymru mae angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gwaith mewn prif afonydd neu gerllaw iddynt. Nid yw’r nodiadau hyn yn ymdrin â gwaith sy’n effeithio ar brif afonydd a dylid ymgynghori â CNC cyn gwneud unrhyw waith.

4.1     O dan Adran 23 (2) Deddf Draenio Tir 1991, awdurdodir y Cyngor i godi ffi ymgeisio mewn perthynas â chais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin. Mae'r ffi sy'n daladwy i dalu am y gost o archwilio a chymeradwyo'r cynigion. Swm y ffi ar hyn o bryd yw £50.00 ac mae'n daladwy yn gyffredinol ar gyfer pob strwythur unigol sy'n rhan o'r gwaith, fodd bynnag gellir grwpio gweithgareddau tebyg ar safle unigol yn un cais.  Cynghorir ymgeiswyr i gadarnhau'r ffi sy'n daladwy trwy drafodaeth cyn cyflwyno cais.

4.2     Dylid cwblhau’r ffurflen gais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin, gan fanylu ar nifer y strwythurau (e.e. cwlfertau, arllwysfeydd, croesfannau ac ati) sy’n ffurfio elfennau’r prosiect, fel y bo’n briodol.

4.3     Ni ellir ad-dalu ffioedd os gwrthodir cais ac felly cynghorir yr ymgeisydd i gysylltu â ni am gyngor cyn ei gyflwyno.

5.1     Cynghorir ymgeiswyr i drafod eu cynigion gyda'r Cyngor cyn gwneud cais, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r prif ofynion ar gyfer y gwaith a ragwelir.

5.2     Dylid cwblhau cais ar-lein a darparu lluniadau ategol a dogfennaeth berthnasol arall. Ar ôl derbyn cais llawn a chyflawn mae gan y Cyngor ddau fis i roi neu wrthod caniatâd.

5.3     Nid yw'r cyfnod hwn yn dechrau nes bod y Cyngor yn fodlon bod y cais yn gyflawn, a’r holl gynlluniau, lluniadau, datganiadau dull a chyfrifiadau dylunio priodol wedi'u cyflwyno.  Bydd y Cyngor yn hysbysu'r ymgeisydd ar ôl derbyn cais cyflawn.

5.4     Gall rhoi Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin fod yn ddarostyngedig i amodau megis yr amser a’r ffordd y bydd y gwaith yn cael ei wneud, y mathau o adeiladu, y gwaith lliniaru amgylcheddol sydd ei angen, a’r darpariaethau sydd i’w gwneud ar gyfer cynnal a chadw’r gwaith gorffenedig yn y dyfodol.

5.5     Rhoddir ganiatâd gan y Cyngor at ddibenion Deddf Draenio Tir 1991 yn unig ac ni ddylai'r ymgeisydd ei ystyried fel un sy'n cymeradwyo dyluniad a chadernid unrhyw strwythur arfaethedig mewn unrhyw fodd.

5.6     Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyfanrwydd strwythurol, sefydlogrwydd na gofynion cynnal a chadw unrhyw waith sy’n cael ei ganiatáu. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yn unig yw'r materion hyn.

5.7     Cynghorir ymgeiswyr nad yw Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin yn drech na hawliau perchennog tir cyfagos nac ychwaith yn caniatáu ymyrraeth â chynefinoedd bywyd gwyllt a warchodir yn gyfreithiol.

5.8     Os bydd y Cyngor yn methu, ddeufis ar ôl derbyn cais llawn a chyflawn, â hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad mewn perthynas â'r cais, yna tybir bod caniatâd wedi'i roi.

6.1     Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod gan y Cyngor ddyletswydd o dan amrywiol ddeddfwriaeth, i warchod a gwella'r amgylchedd naturiol. Felly, rydym yn ystyried goblygiadau cadwraeth natur unrhyw gynnig, wrth benderfynu ar gais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.

6.2     Dylai'r ymgeisydd ystyried goblygiadau amgylcheddol pob opsiwn ar gyfer y gwaith er mwyn dewis yr opsiwn lleiaf niweidiol i'r amgylchedd. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i adroddiad asesiad ecolegol/amgylcheddol, a baratowyd gan weithiwr proffesiynol cymwys, gael ei gyflwyno gyda'r cais. Dylai'r adroddiad drafod yr effeithiau a'r cyfleoedd posibl sy'n gysylltiedig â'r gwaith arfaethedig o ran rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir ac ystyried cysylltiadau â safleoedd dynodedig megis SoDdGA ac ACA.

6.3     Dylid cyfeirio at bolisi cwlferu’r Cyngor (gweler adran 7 isod), yn benodol y gofyn i ystyried opsiynau llai ymwthiol a niweidiol yn ecolegol na cwlfert ar gyfer croesfannau cwrs dŵr newydd.

6.3     Bydd y Cyngor yn ymgynghori a CNC ac Uned Bioamrywiaeth y Cyngor ar unrhyw gais a ddaw i law ynglŷn a’r effeithiau ar yr amgylchedd naturiol.

6.4     Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Cyngor i drafod sgôp yr asesiad ecolegol/amgylcheddol cyn cyflwyno cais. Ni fydd cais y bernir ei fod yn anghyflawn yn cael ei brosesu nes bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chyflwyno.

7.1     Mae polisi cwlfertu’r Cyngor i’w weld ar ein gwefan.

7.2     Yn gyffredinol, mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu cwlfertu cyrsiau dŵr oherwydd yr effeithiau ecolegol andwyol, perygl llifogydd, diogelwch dynol ac effeithiau esthetig. Byddwn yn ystyried pob cais i cwlfertu cwrs dŵr yn ôl ei rinweddau ac yn unol â’n dull o drwyddedu ar sail risg. Dim ond os nad oes dewis arall sy'n rhesymol ymarferol y byddwn yn cymeradwyo cwlfert, neu os credwn y byddai'r effeithiau andwyol mor fach fel na fyddai modd cyfiawnhau dewis arall mwy costus. Ym mhob achos lle mae'n briodol gwneud hynny, rhaid i ymgeiswyr ddarparu mesurau lliniaru digonol a derbyn perchnogaeth a chyfrifoldeb yn unig am waith cynnal a chadw yn y dyfodol. 

7.3     Efallai y bydd achosion lle nad oes modd osgoi cwlfertau yn ymarferol (e.e. darnau byr at ddibenion mynediad neu lle mae priffyrdd yn croesi cyrsiau dŵr). Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddangos bod dewisiadau amgen rhesymol (megis pontydd rhychwant agored neu ddargyfeirio cwrs dŵr) wedi'u hasesu a'u diystyru cyn ystyried cwlfert. Mewn achosion o'r fath dylid cyfyngu'r hyd dan sylw i leiafswm, dylai'r dyluniad hydrolig ac amgylcheddol gael ei asesu'n llawn a chynnwys mesurau lliniaru priodol i'r amgylchedd cyfagos yn y cynnig.

 

 

Cwblhau'r Ffurflen Gais

Rhowch eich enw llawn neu enw eich sefydliad. Rhaid i chi roi eich cyfeiriad llawn yn y DU i ni. Y cyfeiriad a roddwch yma fydd y cyfeiriad y bydd eich Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin yn cael ei gofrestru iddo a bydd yn cael ei ddangos ar unrhyw ganiatâd a roddwn.

Os ydych yn gwneud cais fel cwmni, rhowch gyfeiriad eich swyddfa sydd wedi’i chofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Os yw'r cyfeiriad hwn y tu allan i'r DU, rhowch gyfeiriad eich prif swyddfa yn y DU. Ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais os na fyddwch yn rhoi cyfeiriad yn y DU i ni.

Mae angen eich rhifau ffôn arnom i gysylltu â chi os oes gennym unrhyw ymholiadau am eich cais a rhif ffôn y tu allan i oriau rhag ofn y bydd problemau y tu allan i oriau.

Os ydych yn defnyddio rhywun i weithredu ar eich rhan yn ystod y broses ymgeisio, rhowch eu manylion yma. Gallwch enwebu rhywun heblaw'r person a enwir ar unrhyw Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (er enghraifft, ymgynghorydd neu asiant). Mae angen i chi roi enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt y person perthnasol i ni.

Mae angen i ni wybod pa ddiddordeb sydd gennych yn y tir lle bydd y gwaith yn cael ei wneud (er enghraifft, ai chi yw perchennog y tir neu denant). Os bydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar dir nad ydych yn berchen arno, bydd angen i chi gael caniatâd pwy bynnag sy'n berchen ar y tir.

Rydym angen gwybod pwy fydd yn gyfrifol am gynnal y strwythur/au yn ystod y gwaith adeiladu ac wedi gorffen y gwaith.

Mae angen i ni allu nodi'n hawdd lle bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud. Rhowch fanylion:

  • Lleoliad y safle;
  • Enw'r cwrs dŵr; a
  • Cyfeirnod Grid Cenedlaethol (12 ffigwr) 

Mae'n bwysig eich bod yn disgrifio'n gywir y cynigion ar gyfer y cais sy'n cael ei wneud. Dywedwch wrthym beth yw pwrpas y gwaith a nifer y strwythurau y mae angen caniatâd ar eu cyfer.

Rydych angen caniatâdau ar wahân i’r gwaith parhaol ac unrhyw waith dros dro sydd ddim yn rhan o’r gwaith parhaol. Gallai gwaith dros dro gynnwys, er enghraifft argau coffer (lle caeedig sy’n dal dŵr) ar draws cwrs dŵr neu wyriadau dros dro i ddŵr tra fo gwaith yn cael ei wneud.

Rydym angen gwybod sut yr ydych yn bwriadu ymgymryd â’r gwaith. Felly, mae angen i chi anfon ‘datganiad dull’ i ni gyda’ch cais sy’n cynnwys manylion o’r mesurau penodol yr ydych yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod unrhyw darfu yn cael ei gadw i’r lleiafswm a lleihau unrhyw effeithiau diangen tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Rydym angen gwybod pryd yr ydych yn bwriadu mynd ati i ymgymryd â’r gwaith a faint o amser y credwch y bydd yn ei gymryd. Pan fyddwch yn cynllunio’r gwaith mae angen i chi sicrhau eich bod wedi caniatáu digon o amser i ni ystyried eich cais.

Os rhoddir caniatâd bydd rhaid cwblhau’r gwaith cyn pen dwy flynedd o ddyddiad y caniatâd.  Mae’n rhaid i chi roi o leiaf un mis o rybudd i ni o’ch bwriad i ddechrau’r gwaith.

Er mwyn ystyried eich cynigion mae angen i ni dderbyn cynlluniau a lluniadau, wedi'u tynnu gan beiriannydd neu syrfëwr cymwys. Mae angen i chi ddarparu copïau o'r holl luniadau perthnasol. Sylwer nad yw cynlluniau cyffredinol a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio yn dderbyniol, a rhaid i'r cynlluniau fod yn benodol i'r gwaith o fewn y cwrs dŵr.

Cynllun Lleoliad

Rhaid i hwn fod ar raddfa briodol a bod yn seiliedig ar fap Arolwg Ordnans. Rhaid iddo ddangos yn glir leoliad cyffredinol y safle lle bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud a chynnwys nodweddion cyffredinol ac enwau strydoedd. Rhaid iddo hefyd nodi'r cwrs dŵr neu gyrff dŵr eraill yn yr ardal gyfagos.

Cynllun Safle

Rhaid i chi ddarparu cynllun o'r safle sy'n dangos:

  • Y safle presennol, gan gynnwys unrhyw gwrs dŵr;
  • Eich cynigion
  • Lleoliad unrhyw strwythurau a all ddylanwadu ar hydroleg afonydd lleol, gan gynnwys pontydd, pibellau a dwythellau, ffyrdd o groesi'r cwrs dŵr, cwlfertau a sgriniau, argloddiau, waliau, arllwysfeydd ac ati.

Dylid llunio'r cynllun i raddfa briodol, y mae'n rhaid ei nodi'n glir.

Trawstoriadau

Lle mae gwaith yn tresmasu ar unrhyw gwrs dŵr, dylech ddarparu croestoriadau i fyny'r afon ac i lawr yr afon o'r gwaith arfaethedig. Dylid lluniadu trawstoriadau fel petaent yn edrych i lawr yr afon ar y cwrs dŵr a dylai gynnwys manylion nodweddion presennol ac arfaethedig a lefelau dŵr.

Toriadau hygredol

Mae angen toriadau hydredol a gymerwyd ar hyd llinell ganolog y cwrs dŵr. Rhaid i’r rhain ddangos y nodweddion presennol a’r rhai arfaethedig gan gynnwys lefelau dŵr, lefelau gwelyau a strwythurau. Dylent ymestyn i fyny ac i lawr yr afon o’r gwaith arfaethedig.

Darluniau manwl

Diben y rhain yw dangos manylion y nodweddion presennol ac arfaethedig fel a ganlyn:

  • Lluniadau dylunio manwl a thrychiadau.
  • Y deunyddiau sydd i’w defnyddio ar gyfer unrhyw strwythur.
  • Lleoliad unrhyw bibellau gwasanaeth neu geblau a all effeithio ar gynnal a chadw'r cwrs dŵr yn y dyfodol.
  • Manylion unrhyw goed, prysglwyni, gwrychoedd, pwll neu wlypdir a all gael ei effeithio gan y gwaith arfaethedig.
  • Manylion unrhyw waith plannu neu hadu.
  • Argaeau a choredau (Rydym angen cynllun yn dangos graddau'r dŵr a gronnir (ei ddal yn ôl) o dan amodau arferol a llifogydd fel y gallwn asesu'r effaith posib ar dir ger yr afon.
  • Rhaid i’r cynllun hefyd ddangos unrhyw ddraeniau tir gaiff eu heffeithio

Cyfeiriwch at rhan 6 uchod. 

Ticiwch y dogfennau perthnasol yn yr adran yma fel ein bod yn gwybod beth yr ydych yn ei anfon.

Ticiwch y blychau priodol.

Os ydych yn ateb ‘ydyw’ i unrhyw un o’r cwestiynau fe fyddwch mae’n debyg angen trwyddedau ychwanegol neu ganiatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn eich bod yn dechrau ar y gwaith. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr holl gymeradwyon yr ydych eu hangen gennych cyn i chi gyflwyno eich cais am ganiatâd draenio tir. Bydd angen i ni weld copïau o unrhyw ganiatadau.

Darparwch fanylion am unrhyw ganiatadau cynllunio sydd gennych neu yr ydych yn ymgeisio amdanynt sy’n berthnasol i’r cynnig yma.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi i ni.

Drwy gwblhau’r darn yma 'rydych yn datgan, cyn belled ag y gwyddoch, fod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych, yn cynnwys y map ac unrhyw ddogfennau cefnogol, yn gywir. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gais sydd heb ei arwyddo.

  • Os ydych yn gwneud cais fel cwmni sydd ag ymddiriedolwyr, rhaid i’r holl ymddiriedolwyr arwyddo’r datganiad.
  • Os ydych yn ymgeisio fel cwmni cyfyngedig, mae’n rhaid i ysgrifennydd neu gyfarwyddwr y cwmni arwyddo’r datganiad.

 

Yn ôl

Cysylltu â ni

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r broses ymgeisio, cysylltwch â ni: