Podlediad Mam, Dad a Magu

Mae bod yn rhiant yn heriol, yn anodd ond llawn profiadau unigryw. Mewn podlediad newydd rydyn ni’n trafod realiti magu plant gyda gwesteion arbennig, ac yn rhannu straeon gonest a thipiau defnyddiol.  

Gwrando ar bodlediad: Mam, Dad a Magu 

(Cynhyrchwyd y podlediad hwn gan Wasanaeth Teulu Gwynedd, Cyngor Gwynedd. Barn a safbwyntiau’r cyfranwyr yw’r rhain ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi neu safbwynt swyddogol y Cyngor. Nid yw pob cyfrannydd i’r podlediad wedi eu cyflogi gan y Cyngor, ac nid yw’r ffaith eu bod yn gyfranwyr o reidrwydd yn awgrymu bod y sefydliad yn cefnogi nac yn cytuno â phob un o’r safbwyntiau a fynegir.)

 

 

 

Gwybodaeth gefndirol

Mae adran blynyddoedd cynnar Cyngor Gwynedd sydd nawr wedi ail frandio ac yn cael ei adnabod fel Teulu Gwynedd, wedi cynhyrchu cyfres o bodlediadau uniaith Gymraeg er mwyn helpu teuluoedd ar y daith drwy blynyddoedd cychwynnol ac allweddol plentyndod.

Mae adnodd newydd wedi ei greu sy’n defnyddio technoleg boblogaidd i chwalu tabŵ ynghylch rhai o’r heriau cyffredin mae rhieni i fabis a plant bach yn eu hwynebu.

Sbardunwyd swyddogion o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd i greu’r gyfres podlediadau wedi iddynt sylweddoli bod modd cyfathrebu a chefnogi rhieni gyda problemau cyffredin sydd yn gallu cael effaith ar ddatblygiad naturiol plant, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae pobl yn gallu teimlo’n anghyfforddus siarad am faterion magu sydd yn gallu arwain at broblemau yn ei hun. Os ydi rhieni yn ofn gofyn cwestiynau am bethau sydd yn ddisgwyliedig wrth fagu plant ac yn teimlo ni allent gyfaddef ei bod yn mynd drwy gyfnod anodd gallai hyn olygu y byddent yn methu allan ar dderbyn y gefnogaeth sydd ar gael...

Ein gobaith ydi torri’r tabŵs ac annog pobl i siarad yn agored.”

Eirian Williams, Swyddog Prosiect o Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd