Arolwg Bodlonrwydd Chwarae
Dyddiad cau: 13 Mehefin, 2025.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddeddf sy'n golygu bod rhaid i bob awdurdod lleol yn Nghymru ymgymryd ag Asesiad Digonolrwydd Chwarae sy'n adrodd ar sefyllfa gyfredol y ddarpariaeth ac amodau chwarae yng Ngwynedd ynghyd ag adnabod unrhyw wendidau a meysydd sydd angen sylw.
Gofynnwn yn garedig i blant a rhieni/gofalwyr Gwynedd lenwi’r arolygon perthnasol isod i ni gasglu gwybodaeth a fydd yn cefnogi’r gwaith hwn.
Arolwg i blant
Arolwg i rieni/gofalwyr
Mae copïau papur ar gael ar gais.
Byddwn hefyd yn ymweld â chanolfannau hamdden Gwynedd yn yr wythnosau nesaf i ymgysylltu â phlant a rhieni/gofalwyr wyneb yn wyneb.
Cysylltu â ni
Cysylltwch gyda GGTGwyneddFIS@gwynedd.llyw.cymru am ragor o wybodaeth.