Prosiect Gofal Cartref

Rydan ni am wneud yn siŵr fod y gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i oedolion yn eu cartrefi yn eu helpu i fyw y bywyd gorau bosib o fewn eu cymuned.

 

Mae pob unigolyn yn unigryw. Rydan ni eisiau cefnogi pobl i allu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw fel unigolion. I wneud hyn mae’n rhaid i staff:

  • gael y cyfle i ddod i nabod a deall y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt
  • gael yr hawl i wneud be sy’n iawn
  • ofyn am gefnogaeth o lefydd eraill pan fydd angen hynny.

Fel rhan o'r cynllun newydd, rydan ni am sicrhau: 

  • Bydd y gofal yn cael ei drefnu ar lefel gymunedol. Dim ond un neu ddau o ddarparwyr gofal fydd yn gweithio fesul ardal. Bydd gwasanaeth mewnol y Cyngor yn gweithio mewn rhai ardaloedd, a darpariaeth annibynnol mewn ardaloedd eraill.
  • Bydd ansawdd y gofal a thelerau staff yn fwy cyson ar draws y sir. Bydd y gwaith o drefnu’r gofal a recriwtio staff yn dod yn haws, ac yn digwydd yn lleol fesul ardal.
  • Bydd y gwasanaeth mae unigolion yn ei dderbyn heddiw’n parhau, a bydd pobl yn derbyn gofal cartref tra byddant angen y gefnogaeth.

Gwyliwch y fideo i ddeall mwy am y model gofal cartref newydd: 

 

Mae prinder gofal mewn sawl ardal o’r Sir. ‘Rydan ni hefyd yn gwybod bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn tueddu i fod yn gylch o dasgau penodol, i’w cyflawni ar amseroedd penodol o’r dydd - pethau fel help i godi, ymolchi, gwisgo a bwyta. Does dim llawer o le i wneud pethau gwahanol a allai wneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd rhywun.

Ar ben hynny mae’r cwmnïau sy’n darparu’r gofal yn tueddu i weithio ar hyd a lled y sir, ac yn aml fe welwch sawl gweithiwr gofal o gwmnïau gwahanol ar yr un stryd!