Gwynedd Oed Gyfeillgar
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i fod yn awdurdod lleol oed gyfeillgar erbyn 2025, mae hyn yn cyd-fynd a’r gwaith cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru a Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae’r agenda yma yn cyd-fynd gyda gwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Dysgu mwy am waith Sefydliad Iechyd y Byd
Mae nifer o brosiectau ar y gweill yng Ngwynedd:
Rhannu Cartref
Mae cynllun cyffrous Rhannu Cartref yn lansio yng Ngwynedd!
Mae'r cynllun yn gyfle cyffrous i fynd i'r afael â rhai o brif heriau sydd yn wynebu'r Cyngor megis gofal, di-gartrefedd a heriau cymdeithasol megis unigrwydd. Mwy o wybodaeth
Pontio’r Cenedlaethau
Mae cynllun pontio’r cenedlaethau yn gweithio'n hynod o galed ar amryw o brosiectau sy'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd:
Gwylio fideo i ddysgu mwy am y cynllun Pontio'r Cenedlaethau
Mae Cyngor Gwynedd yn bartneriaid yn yr wythnos Ryngwladol sy'n dathlu pontio’r cenedlaethau ym mis Ebrill 2023. Dysgu mwy am y gwaith a’r dathliadau rhyngwladol
Fforymau Pobl Hŷn
Mae rhan o’r gwaith yn cynnwys ymgysylltu â pobl hŷn ar draws y Sir, dyma’r fforymau:
Ardal Bangor: Cyfarfod nesaf i’w gadarnhau
Ardal Caernarfon: Cyfarfod nesaf i’w gadarnhau
Ardal De Meirionnydd: Cyfarfod nesaf i’w gadarnhau
Ardal Llŷn: Cyfarfod nesaf i’w gadarnhau
Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd: Cyfarfod nesaf i’w gadarnhau