Rhywun i siarad ar fy rhan

Eiriolwr yw rhywun sy’n eich cefnogi i gyfathrebu eich anghenion, helpu i archwilio opsiynau ac yn cyflawni pethau ar eich rhan.

 

Beth mae eiriolwr yn ei wneud?

  • gwneud yn siŵr fod pobl yn gwrando arnoch ac yn rhoi atebion i chi
  • rhoi grym i chi
  • hyrwyddo delweddau cadarnhaol
  • gweithio fel bod pethau’n digwydd ac yn newid
  • eich cefnogi i wneud penderfyniadau a chymryd mwy o reolaeth
  • gweithio dros hawliau cyfartal a chynhwysiant.


Beth nad yw eiriolwr yn ei wneud?

  • cynghori
  • mynd â rheolaeth oddi arnoch
  • chwarae rôl gweithiwr cymdeithasol
  • llenwi bylchau yn y gwasanaethau ddylai gael eu darparu.


Sut ydw i’n cael eiriolwr?

Cysylltwch ag un o’r darparwyr eiriolaeth annibynnol hyn:


Cynllun Adfocatiaeth Iechyd Meddwl (Bangor)

Mae’n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i bobl sydd ag anawsterau Iechyd Meddwl yng Ngwynedd ac Ynys Môn, drwy ddarparu gwybodaeth, cynrychiolaeth neu gymorth.


Cymdeithas Cyngor ac Adfocatiaeth Gogledd Cymru (GACGC)

Mae’r GACGC yn gweithio gydag oedolion sydd angen gofal cymdeithasol yng Ngwynedd. Mae’r gwasanaeth yn rhan o Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol (EBA). Gall y GACGC gefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd cymryd rhan yn eu hasesiadau, adolygiadau a chynlluniau gofal. Maen nhw hefyd yn medru cefnogi gofalwyr, pobl anabl, yr henoed, rhieni sy’n derbyn gwasanaeth teuluol, pobl ag anghenion addysgu a phobl fregus gydag anghenion gofal. Mae’r GACGC yn croesawu ymholiadau gan bobl broffesiynol a’r cyhoedd.