Cerdyn gofalwyr di-dâl dros 18 oed

Ar gyfer pwy mae'r cerdyn?

Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl dros 18 oed- pobl sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n methu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd anabledd, salwch neu broblemau cam-drin sylweddau. Rhaid i’r gofalwr neu’r person y maent yn gofalu amdanynt fod yn byw yng Ngwynedd, Môn neu Conwy.

Nid yw’r cardiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal sy’n derbyn tâl.

 

Sut mae'r cerdyn yn gweithio?

  • Bydd eich llun a’ch enw yn ymddangos ar flaen y cerdyn, ynghyd â’r dyddiad y bydd y cerdyn yn dod i ben.
  • Bydd y cerdyn yn ddilys am 5 mlynedd.
  • Mae stribed ar gefn y cerdyn er mwyn ysgrifennu rhif ffôn person sydd wedi cytuno i fod yn gyswllt mewn argyfwng.

 

Gwneud cais am gerdyn

Gallwch gofrestru gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gael eich cerdyn gofalwyr a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth bellach. 

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am gerdyn:

 

Disgownts lleol

Enw BusnesMath o FusnesGostyngiad:

Wyddfa Ltd

Dillad

5% oddi ar bopeth trwy gysylltu gyda enquiries@wyddfaclothing.com

Pen Solar Cyf

Techneg solar

Gostyngiad o 5% ar wasanaethau

Partneriaeth Ogwen

Menter gymunedol

10% o ostyngiad ar bob dim

Nio Health and Fitness

Meddyginiaeth Tsieineaidd Traddodiadol - 

Aciwbigo & Tuina

£10 oddi ar eich ymgynghoriad cyntaf

Neuadd Ogwen

Neuadd gyngerdd a chanolfan celfyddydau gymunedol

Yn ddibynnol ar y digwyddiad

Melin Llynnon

Llanddeusant,
Ynys Môn, 
LL65 4AB

Atyniad twristiaeth

Gostyngiad ar ymweliadau

Gwaith Llechi Inigo Jones

Siop, taith a gweithdai llechi a chaffi

10% oddi ar eitemau wedi eu prynu o’r siop a’r daith dywys

DRAENOG

Cardiau ac anrhegion Cymreig

Cod gostyngiad 10% ar gael drwy e-bostio: post@draenogdesign.co.uk

Caffi Seren

High St. Bethesda, LL57 3AR

Caffi

10% oddi ar bob dim

Bubble Den

Sebon a bomiau bath

 

10% oddi ar bob dim yn defnyddio’r cod: carer10

Bocs Sebon

Sebon botanegol, cynnyrch croen a phapur wedi'i wneud a llaw

Cod 10% oddi ar bob dim ar gael trwy e-bostio gwyneth@bocssebon.cymru

Belinda Rae Osteopath

Beacon Climbing Centre,
Ystad Cibyn, Caernarfon,
LL55 2BD

Osteopath

Gostyngiad o £10 oddi ar y 6 triniaeth cyntaf ar unrhyw fis calendr

Barbwr Ogwen

75 Stryd Uchaf, Bethesda

Barbwr

£2 oddi ar dorri gwallt

Baavet

Dillad gwely 100% gwlân Prydeinig

20% o ostyngiad trwy e-bostio info@baavet.co.uk


 

Cwestiynau Cyffredin

Oes:

  • Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu hŷn ac sy’n byw neu sy’n gofalu am rywun yng Ngwynedd, Môn neu Gonwy.
  • Rhaid i chi gofrestru gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr er mwyn gwneud cais
  • Mae'r cerdyn yn ddilys am bum mlynedd, ac mae angen i chi wneud cais am un newydd cyn iddo ddod i ben drwy ffonio Cynnal Gofalwyr.
  • Os na fyddwch yn ofalwr mwyach, dylech ddweud wrth y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, ac ar ôl tri mis, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y cerdyn. 
  • Ni ellir rhannu’r cerdyn gydag unrhyw un arall.

Gwnewch cais am gerdyn newydd drwy gysylltu â Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr: