Grant cyfleusterau i bobl anabl

Dyma grant penodol am waith i ddarparu cyfleusterau ar gyfer addasiadau i anheddau er budd pobl anabl yn eu prif gartref. Mae enghreifftiau o’r math o waith y gellir ei gyflawni yn cynnwys:

  • gosod cawodydd mynediad gwastad
  • lifftiau grisiau
  • addasu ystafelloedd
  • estyniadau
  • mynediad i eiddo

Mae uchafswm grant o £36,000, ond mewn achosion arbennig gellir caniatau ychwanegu benthyciad dewisol, drwy gyfrwng Benthyciad Dewisol Cyfleusterau i’r Anabl (BDCA). Mae rhagor o wybodaeth am y benthyciad i’w gael yn y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl

 

Sut mae gwneud cais?

Yr unig ffordd y mae derbyn y grant hwn yw drwy gael eich cyfeirio’n ffurfiol gan Therapydd Galwedigaethol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

map oedolion

Gweld map llawn

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd

 

Y Prawf Modd

Mae’n reidrwydd statudol fod pob grant yn ddarostyngedig i brawf modd. Gellir gwneud prawf modd rhagarweiniol cyn cael unrhyw gyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol os dymunir. Os yw’r gwaith angenrheidiol ar gyfer plentyn anabl, ni fydd rhaid cymryd prawf adnoddau. 

 

Y Broses

Bydd yr Adran yn derbyn cyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol, ac wedyn yn cysylltu a chi er mwyn llenwi ffurflen gais a chynnal prawf Adnoddau ffurfiol. Bydd amserlen ar gyfer unrhyw waith addasu yn ddibynol ar maint a natur yr addasiad ond fydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith yn amserol. Swm y grant a gymeradwyir fydd y gwahaniaeth rhwng cost gyfan y gwaith cymwys, a’ch cyfraniad chi fel a benderfynir drwy’r prawf adnoddau

 

Oes yna unrhyw Amodau?

Oes, mae amodau ynghlwm â’r grant. e.e. rhaid i chi brofi perchnogaeth o’r eiddo, a rhaid talu eich cyfraniad (os oes un) yn llawn cyn dechrau unrhyw waith. Mae rhestr llawn i’w gweld yn y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl neu cysylltwch cysylltwch â ni:

Uned Grantiau a Phrosiectau
Adran Tai ac Eiddo
Cyngor Gwynedd
Cae Penarlag
Dolgellau
LL40 2YB
01341 424351