Hinsawdd a Natur
Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
Cafodd y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ei fabwysiadu mewn cyfarfod o’r Cabinet ar 8 Mawrth 2022.
Mae’r cynllun yn esbonio’r rhesymau pam fod angen i’r Cyngor weithredu, pa gamau y bydd yn ei gymryd, ac yn cynnig amserlen a chostau amlinellol ar gyfer y gwaith.
Uchelgais y cynllun yw y “Bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.”
Gweld Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Gwynedd
Mae hwn yn gynllun y byddwn yn ei ddatblygu a’i addasu rhwng 2022 a 2030, a byddwn yn ymgynghori’n eang gyda chymunedau Gwynedd a gyda’n partneriaid wrth wneud hynny.