Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif priodas ar gyfer priodasau sydd wedi eu cynnal yng Ngwynedd ers 1837 a thystysgrifau partneriaethau sifil ers y flwyddyn 1994.
Os ydych yn chwilio am dystysgrif hŷn na 1837 cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.
Prynu copi o dystysgrif priodas / partneriaethau sifil
Cost
£12.50 (yn cynnwys postio ail ddosbarth).
Sut mae gwneud cais am gopi?
Ffôn:
01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
Drwy'r post:
Lawrlwythwch y ffurflen isod:
- Prynu copi o dystysgrif priodas (yn agor mewn tab newydd)
- Prynu copi o dystysgrif partneriaeth sifil (yn agor mewn tab newydd)
a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i:
Cofrestryddion, Pencadlys y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.
Angen tystysgrif ar frys?
Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys.
Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Gwener) bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i bostio y dystysgrif gyda post dosbarth cyntaf ar yr un diwrnod.
Cost am gais brys yw £38.50 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf (neu mae'n bosib gwneud cais am lythyr wedi ei arwyddo am ffi ychwanegol).
Mae hefyd yn bosib casglu y dystysgrif o Siop Gwynedd, Caernarfon rhwng 3pm a 4pm.
Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Gwener).
Mwy o wybodaeth
Ffoniwch: 01766 771000