Ymgynghoriad Polisi Codi Tâl am Ofal
Mae bwriad diweddaru polisi codi tâl am ofal Cyngor Gwynedd er mwyn sicrhau fod y polisi yn parhau i gyd fynd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n mynnu nad yw unrhyw un talu mwy nag y gallant fforddio’n rhesymol. Mae gofyn ar y Cyngor i adolygu ei ffioedd yn amserol er mwyn sicrhau fod y ffioedd sy’n cael eu codi yn adlewyrchu’r costau gwirioneddol o ddarparu gwasanaethau.
Beth sy'n cael ei ystyried?
Er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys a chynaliadwy i'r dyfodol, un ystyriaeth fydd i ychwanegu’r hawl i'r Cyngor godi am wasanaethau penodol sydd wedi bod am ddim yn hanesyddol (er enghraifft gwasanaethau dydd).
Mae’n bwysig nodi fod Llywodraeth Cymru yn gosod uchafswm ar yr hyn y gall gynghorau ei godi fel ffioedd am ofal. Ni fydd unrhyw unigolyn yn talu mwy na £100 yr wythnos am eu gofal di-breswyl (Unrhyw ofal sydd ddim yn cael ei ddarparu mewn cartref preswyl neu nyrsio cofrestredig).
Bydd gan pob unigolyn hefyd yr hawl i asesiad ariannol er mwyn pennu eu cyfraniad yn unol a’u sefyllfa ariannol. Yr egwyddor ydi na fydd neb yn cyfrannu yn ariannol tuag at eu gofal os na eu bod wedi cael eu asesu i allu fforddio cyfrannu.
Crynodeb o ganlyniadau ymgynghoriad Rhagfyr 2024
Mae'r prif ganlyniadau fel y ganlyn:
- Roedd 73 ymateb i’r ymgynghoriad.
- Roedd 38% o’r ymatebwyr yn aelod teulu defnyddiwr gwasanaethau gofal, 33% yn arall, 25% yn ofalydd di-dâl a 4% yn ddefnyddiwr gwasanaethau gofal.
- Roedd 55% yn ymwybodol o bolisi codi tâl am ofal Cyngor Gwynedd, a’r gwasanaethau gofal hynny lle mae ffi’n cael ei godi ar hyn o bryd, 45% ddim yn ymwybodol.
- Roedd 15 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd fod y Cyngor heb gysylltu gyda teuluoedd na gofalwyr neu wedi clywed gan eraill.
- Roedd 72% o’r ymatebwyr wedi dewis ‘nac ydi’ fel ymateb i’r cwestiwn os yw'r polisi codi tâl yn ei gwneud yn eglur pa ffioedd mae'n rhaid i ofalwyr di-dâl eu talu, a 28% wedi dewis ‘ydi’.
- Roedd 14 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd aneglur/ddim yn deall y polisi.
- Roedd 71% o ymatebwyr wedi dewis dylai barhau y polisi lle nid yw’r Cyngor wedi bod yn codi ffi am ofal uniongyrchol i ofalwyr di-dal (lle bo’r gwasanaeth yn enw’r gofalydd), 14% wedi dewis na ddylai a 15% dim barn cryf.
- Roedd 17 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd byddai codi tal yn cosbi gofalwyr yn ariannol / gofalwyr methu fforddio talu.
- Roedd 71% o’r ymatebwyr wedi ymateb na ddylai’r Cyngor godi ffi am wasanaethau cefnogol Iechyd Meddwl i unigolion sydd ddim yn dod o dan Adran 117 o’r ddeddf Iechyd Meddwl, gyda 21% wedi nodi dylai a 8% dim barn cryf.
- Roedd 15 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd dylasai fod am ddim.
- Fel ymateb i’r cwestiwn ‘os bydd y Cyngor yn codi ffi am fynychu gwasanaethau dydd, dylai’r ffi gael ei godi drwy:’ roedd 42% wedi dewis ffi ‘fflat’ nominal yn daladwy gan bawb, 39% wedi dewis ffi sydd yn ariannu cost y gwasanaeth yn llawn, ond fod gan bawb yr hawl i asesiad i bennu eu cyfraniad (hyd at yr uchafswm presennol o £100 yr wythnos), ac 18% dim barn cryf.
- Roedd 26 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd dylasai fod am ddim / anghytuno gyda codi ffi.
- Roedd 51% o ymatebwyr wedi dewis na ddylai’r Cyngor godi ffi am drafnidiaeth sydd ddim yn gymwys o dan rhan 4 ag 5 o’r Cod Ymarfer (2014), gyda 32% yn dewis dylai a 17% yn dewis dim barn cryf.
- Roedd 14 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd yn darparu eu trafnidiaeth eu hunain yn barod.
- Roedd 48% o ymatebwyr wedi dewis y fyddai y newidiadau yn cael effaith negyddol neu ychydig o effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a'i statws o fewn y gymuned, tra fod 44% wedi dewis dim effaith, a 7% wedi dewis effaith gadarnhaol neu ychydig o effaith gadarnhaol.
- Roedd y mwyafrif 69% wedi dewis y fyddai y newidiadau yn cael effaith negyddol neu ychydig o effaith negyddol ar bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, tra fod 17% wedi dewis dim effaith, a 14% wedi dewis effaith gadarnhaol neu ychydig o effaith gadarnhaol.
- Lle yn briodol, mae dadansoddiad pellach wedi cael ei wneud i ddangos ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg fesul ymateb i’r cwestiwn ‘Y ydych yn:’. Mae’r dadansoddiad yma wedi cael ei gynnwys yn Atodiad A. Gan fod nifer ymatebwyr yn rhai o’r grwpiau yn isel mae angen cymryd gofal wrth edrych ar y dadansoddiad yma.