Ymgynghoriad Darpariaethau Teithio Llesol ar Ffordd Penrhos

Cyflwyniad Canlyniadau

Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn cydweithio i’w gwneud yn haws, mwy diogel a chyfleus i bobl gerdded, beicio neu deithio ar olwynion ym Mangor. Nod y cynllun hwn yw gwella seilwaith teithio llesol ar hyd Ffordd Penrhos rhwng Cylchfan Y Faenol a Gorsaf Drenau Bangor.  

Mae’r dudalen we hon yn darparu manylion y gwelliannau posibl sy’n cael eu hystyried ar hyd y coridor. Mae’r ymyriadau arfaethedig wrthi’n cael eu datblygu ac nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi’i wneud ar ddyluniad y cynllun. Hoffem ystyried yr holl adborth a gafwyd a byddwn yn defnyddio’r sylwadau a gasglwyd i helpu i barhau i esblygu’r dyluniadau.  

 

Dysgwch fwy am y cefndir i’r cynllun teithio llesol hwn.

Gwella Llwybrau Cerdded, Beicio a Defnyddio Olwynion  

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd i ystyried ei gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus i bobl gerdded, beicio a defnyddio olwynion ar lwybrau i Fangor a thu hwnt i’r orsaf drenau. Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debygol y bydd llwybrau amrywiol yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, am y tro, bydd pwyslais yr astudiaeth ar yr A487, Ffordd Penrhos, a Ffordd Penchwintan, rhwng Cylchfan Y Faenol a 
Gorsaf Drenau Bangor.

Ar y dudalen hon, gallwch weld syniadau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y mathau o welliannau y gellid eu gwneud ar hyd y coridor. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:  

  • Lonydd beicio newydd 

  • Llwybrau cyd-ddefnyddio newydd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion 

  • Gwell llwybrau troed ar gyfer cerddwyr 

  • Gwell croesfannau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion 

  • Nodweddion i helpu i arafu cyflymdra traffig a chreu llwybr mwy diogel i bawb  

Mae’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn y camau cynnar, a bydd cyfle i newid y cynigion ar ôl ystyried y sylwadau a geir fel rhan o’r ymgysylltiad hwn. Bydd sylwadau a geir yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach felly byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau cadarnhaol (agweddau da ar y cynllun) ac adeiladol (unrhyw elfennau y gallech fod yn poeni amdanyn nhw).  

Byddai’r holl welliannau yn destun dylunio ac ymgynghori pellach ar ôl cwblhau’r cynlluniau dylunio. Bydd angen cael y cyllid a’r caniatâd cynllunio perthnasol cyn y gellir gweithredu unrhyw newidiadau i’r ffyrdd a’r llwybrau troed. Fodd bynnag, yn amodol ar sylwadau’r gymuned, mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio adeiladu’r gyfres gyntaf o welliannau er mwyn bod yn barod i’w defnyddio eleni. 

 

Y Cyd-destun Ehangach 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith ehangach y mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio olwynion. Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredinol Llywodraeth Cymru i annog, cefnogi a hyrwyddo teithio llesol ar gyfer teithiau lleol. Mae hefyd yn cysylltu cynlluniau ehangach i wella Gorsaf Drenau Bangor a’r nod yw helpu i annog pobl i gyrraedd yr orsaf drenau drwy ddulliau llesol.  

Trwy ddarparu gwella darpariaethau teithio llesol, a datblygu rhwydwaith o lwybrau ar draws Bangor, nod Cyngor Gwynedd yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl sydd eisoes yn cerdded, beicio a defnyddio olwynion ac, yn bwysig, annog mwy o bobl i adael y car gartref ar gyfer teithiau lleol byr. Yng nghyd-destun newid hinsawdd ac argyfwng ecolegol, mae hyn yn bwysicach nag erioed. 

Dysgwch fwy am ein syniadau i greu llwybr gwell i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion ei rannu ar Ffordd Penrhos. 

A487, Ffordd Penrhos a Ffordd Penchwintan 

Mae’r llwybr hwn o’r A487, ar hyd Ffordd Penrhos, Ffordd Penchwintan, ac yn cysylltu â Gorsaf Drenau Bangor yn llwybr pwysig i lawer sy’n teithio i Fangor a’r gorllewin ac yn ôl. Mae’n cysylltu ardaloedd preswyl ag ysgolion, canolfannau teithio, yr Ysbyty, ac ardaloedd cyflogaeth. Ein nod gyda’r cynigion hyn yw darparu dull diogel o deithio y gall pobl eu defnyddio i gysylltu’r cyrchfannau hyn â gweddill Bangor.  

Mae’r cynlluniau isod yn dangos ein syniadau cynnar ar gyfer y gwelliannau y gellid eu gwneud i Ffordd Penrhos a gweddill y llwybr:

Mae rhai o’r manylion a ddangosir ar y cynlluniau yn eithaf bach, mae wedi’i ddylunio i chi allu chwyddo i mewn a gweld mwy. Fodd bynnag, os ydych yn ei chael yn anodd darllen y cynlluniau hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar waelod y dudalen. 

Cofiwch mai dim ond awgrymiadau y mae’r cynlluniau hyn yn eu dangos ar hyn o bryd. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich sylwadau arnyn nhw a sylwadau gan eraill! 


 

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.