Canlyniadau Trwyddedu Sefydliadau Rhyw

Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i fabwysiadu grymoedd er mwyn gallu rheoleiddio a thrwyddedu sefydliadau rhyw drwy’r sir.

Mae Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y'i diwygiwyd yn cynnwys grymoedd dewisol sydd yn rhoi’r hawl cyfreithiol i’r Cyngor reoleiddio a thrwyddedu sefydliadau rhyw.

 Mae sefydliadau rhyw yn cynnwys:

  •       siop ryw (gwerthu nwyddau o natur rywiol)
  •       sinema rhyw (dangos ffilmiau gyda chynnwys sylweddol o natur rywiol)
  •       mangre adloniant rhywiol (eiddo busnes sydd yn cynnal adloniant byw o natur          rywiol yn aml a rheolaidd)

Ar hyn o bryd, dim ond yn ardal Arfon o’r sir y mae gan y Cyngor rym i reoleiddio a thrwyddedu rhai mathau o sefydliadau rhyw, sef siopau rhyw a sinemau rhyw. Fodd bynnag, does dim grym gan y Cyngor i reoleiddio mangreoedd adloniant rhywiol yn Arfon.

Yn ogystal, does gan y Cyngor ddim grym i reoleiddio unrhyw fath o sefydliad rhyw yn ardaloedd Dwyfor na Meirionnydd. Mae hyn yn golygu bod modd ar hyn o bryd i unrhywun agor mangre adloniant rhywiol unrhywle yn y sir heb fod angen trwydded. Mae hefyd yn golygu bod modd ar hyn o bryd i unrhywun agor sefydliad rhyw yn Nwyfor a Meirionnydd heb fod angen trwydded.

Byddai mabwysiadu Atodlen 3 yn galluogi’r Cyngor i reoli a thrwyddedu sefydliadau rhyw mewn modd effeithiol ledled y sir. Bydd system drwyddedu yn sicrhau bod sefydliadau o’r fath yn cael eu rhedeg mewn ffordd gyfreithlon, diogel a phriodol. Bydd hefyd yn sicrhau bod nifer, lleoliad a natur y sefydliadau hyn yn addas i gymunedau Gwynedd.

Os na fydd y Cyngor yn mabwysiadu Atodlen 3, bydd sefydliadau rhyw yn parhau i allu rhedeg yn Nwyfor a Meirionnydd heb unrhyw ffordd i’r Cyngor eu rheoli. Bydd hefyd modd i fangreoedd adloniant rhywiol barhau i weithredu yn Arfon heb fod angen trwydded.

Fe wnaeth yr arolwg hwn gau ar y 23 Awst, 2021.

Fe ddaw y canlyniadau yn fuan.