Polisi Cludiant Addysg Drafft


Mae'r arolwg yma bellach wedi cau.

 

Gwybodaeth Gefndirol

Mae’r Polisi Cludiant Addysg sydd yn weithredol ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl i 2009, ac er nad oes newid i’r gofynion statudol ynghlwm â darparu cludiant i ddysgwyr, mae angen adolygu’r polisi er mwyn:

  1. Sicrhau ein bod yn cyfarch gofynion a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru: Yr angen i ymgynghori o leiaf 12 mis cyn cyflwyno newid i ran neu pob elfen dewisol o’r polisi
  2. Sicrhau eglurder ar yr elfennau dewisol er tegwch i blant pobl ifanc a’u teuluoedd: Mae yna anghysondeb o ystyried cynnwys holl feysydd y polisi presennol
  3. Sicrhau bod y polisi’n addas i bwrpas ac yn eglur a hawdd i’w weithredu o fewn yr adnoddau sydd ar gael: Mae’r polisi wedi dyddio sy’n golygu nad oes modd gweithredu elfennau ohono bellach yn sgil gofynion a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae’r polisi yn amwys sy’n ei gwneud yn anodd i’r Awdurdod wneud penderfyniadau clir a chytbwys am gludiant addysg 

Mae’r prif newidiadau a gynigir i’r Polisi Cludiant Addysg Drafft yn y meysydd canlynol:

  • Cynllun Seddi Gweigion
  • Ysgolion ffydd
  • Preswyliad Deuol
  • Cludiant ôl-16

 

Dogfennau

 

Rhoi eich barn

Mae'r arolwg yma bellach wedi cau. Diolch am eich ymatebion.

Cyfnod yr arolwg: 9 Chwefror, 2026 tan 20 Mawrth, 2026.