Arolwg Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd

Daeth yr arolwg yma i ben ar y 24 Mawrth, 2026.

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi cychwyn ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Bydd y Cynllun yn cyfarch anghenion tai, cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion Gwynedd ar ddyddiad ei fabwysiadu hyd at 2039.

 

Rheswm dros yr arolwg?

Roeddem yn awyddus i glywed eich barn ar y materion sy’n bwysig ac yn berthnasol i chi, ac y gall y Cynllun Datblygu Lleol eu dylanwadu. Mae’r materion hyn yn cwmpasu ystod eang o ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. 

Roedd cyfle i rannu barn drwy holiadur ar-lein. Roedd copïau papur o'r arolwg ar gael yn llyfrgelloedd y sir, Siopau Gwynedd a drwy'r post ar gais.

 

Cyfnod yr arolwg

13 Chwefror - 24 Mawrth 2026.

 

Camau nesaf

Mae'r ymatebion yma am helpu ni i lunio y Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Bydd yna gyfnodau o ymgynghori statudol i ddilyn drwy gydol y daith o baratoi'r cynllun.

Yn dilyn ei fabwysiadu, bydd y Cynllun yn llywio penderfyniadau ar gynigion datblygu ynghyd a chyfarch anghenion a chyfleoedd yr ardal. Prif bwrpas y Cynllun Datblygu Lleol yw rhoi arweiniad ar y mathau o ddatblygiadau sydd yn addas mewn lleoliadau gwahanol.

Yn y cyfamser, a hyd nes y bydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd yn cael ei fabwysiadu, bydd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i ddarparu'r fframwaith bolisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.

 

Cysylltu â ni