"Compact" (Cytundeb Partneriaeth) Cyngor Gwynedd a'r 3ydd Sector
Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau.
Beth yw’r Compact?
Mae’r “Compact” yn gytundeb cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector (sef elusennau, mudiadau cymunedol, a grwpiau gwirfoddol). Ei nod yw cryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor a’r sector, gan sicrhau bod cydweithio, cyfathrebu ac ymddiriedaeth yn sail i’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd er budd pobl Gwynedd.
Darllen y Compact
Pam rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn?
Rydym am sicrhau bod y “Compact” yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r gymuned. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gallwch helpu i sicrhau bod y cytundeb yn:
- Ymarferol ac ystyrlon
- Yn cefnogi cydweithio teg ac agored
- Yn cynnig manteision go iawn i gymunedau lleol
Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio’r fersiwn derfynol o’r Compact, a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor a’r Trydydd Sector.
Rhoi eich barn
Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau.
Datganiad Preifatrwydd
Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Byddwn yn rhannu atebion yr holiadur gyda Mantell Gwynedd at bwrpas eu dadansoddi a bydd unrhyw adborth yn mynd at ddibenion adolygu y cytundeb yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am 12 mis ar ôl dyddiad cau'r holiadur.
Diolch yn fawr am eich cyfraniad.