Cerbydau wedi eu gadael

Gall gerbyd wedi ei adael ei ddisgrifio fel cerbyd sydd wedi ei adael gan y perchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd.

Dylech adrodd i'r Heddlu am unrhyw gerbyd sydd:

  • Yn groes i orchmynion rheoleiddio traffig lleol
  • Yn achosi rhwystr ar briffordd gyhoeddus
  • Wedi ei losgi
  • Wedi ei adael mewn man peryglus

Ni fyddwn yn ymyrryd mewn anghydfod preswyl am gerbydau tu allan i'ch eiddo.

Arwyddion posib o gerbyd sydd wedi'i adael:

  • Y car heb symud ers dros 6 wythnos
  • Ffenestri neu ddrychau wedi malu
  • Tystiolaeth o lwydni
  • Sbwriel neu dyfiant o dan y cerbyd
  • Dim treth neu MOT
  • Teiars fflat

Os ydych yn bryderus fod cerbyd wedi’i adael ers cryn amser dylech wirio os yw wedi ei drethu a bod ganddo MOT dilys. Gallwch wneud hynny ar wefan Llywodraeth y DU:

Gwirio os yw cerbyd wedi'i drethu 

Adrodd cerbyd heb MOT

 

Mae gan y cerbyd MOT dilys a mae o wedi'i drethu

Os oes gan y cerbyd MOT dilys a'i fod wedi’i drethu, ni fydd yn cael ei ystyried fel cerbyd wedi’i adael.

 

Cerbyd sydd wedi ei gofrestru fel oddi ar y ffordd (HOS)

Os ydych eisiau adrodd am gerbyd sydd wedi ei gofrestru fel ei fod oddi ar y ffordd (HOS), dylech wneud hyn gyda’r DVLA.

Adrodd am gerbyd heb ei drethu

 

Sut i adrodd am gerbyd wedi’i adael

Cyn adrodd, ystyriwch os yw’r pwyntiau yma yn berthnasol i'r cerbyd:

  • Y car heb gael ei symud ers dros 6 wythnos
  • Ffenestri neu ddrychau wedi malu
  • Tystiolaeth o lwydni
  • Sbwriel neu dyfiant o dan y cerbyd
  • Dim treth neu MOT
  • Teiars fflat

Bydd angen i chi ddarparu y wybodaeth ganlynol pan yn adrodd am gerbyd wedi ei adael:

  • Lleoliad
  • Rhif cofrestru (Number plate)
  • Gwneuthurwr, model a lliw
  • Cyflwr y cerbyd
  • Cyfnod mae’r cerbyd wedi bod yn y safle

Er mwyn adrodd am gerbyd sydd wedi’i adael gallwch wneud hynny ar:

Am resymau diogelu data, ni fyddwn yn rhannu manylion y sawl sydd yn berchen ar y cerbyd na'r sawl sydd yn gwneud yr adroddiad.

  1. Bydd aelod o’r tîm yn ymweld ac arolygu’r cerbyd os ydi’r adroddiad cychwynnol yn awgrymu fod angen cymryd camau pellach.
  2. Os ydym yn credu fod y cerbyd wedi’i adael, byddwn yn cysylltu gyda’r perchennog i ofyn iddynt wneud trefniadau i’w symud.
  3. Yn dilyn hyn, os na fydd camau wedi’u cymryd gan berchennog y cerbyd, mae gan y Cyngor bwerau i’w waredu.

 

Gwaredu Cerbyd

Gallwn waredu cerbyd wedi’i adael yn syth os yw’r:

  • Cerbyd mewn cyflwr lle does dim opsiwn ond ei ddinistrio 
  • Cerbyd heb rif cofrestru

Mewn unrhyw achos arall, bydd rhaid i ni geisio canfod perchennog y cerbyd.

Os byddwn yn canfod y perchennog, bydd yn cael rhybudd ysgrifenedig ac o leiaf 7 diwrnod i symud y cerbyd.

Os na allwn ddod o hyd i'r perchennog, neu os na fydd yn cydymffurfio â rhybudd i gasglu'r cerbyd, byddwn yn ei waredu. 

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy: