Croeso Cynnes

Y tŷ yn oer?  Awydd sgwrs neu baned gynnes?

Mae nifer o leoliadau ar draws Gwynedd yn cynnig "Croeso Cynnes" i  unrhyw un ddod i mewn am gysgod, sgwrs neu baned.

Cliciwch ar y map isod i ddod o hyd i leoliad Croeso Cynnes agos i chi. : 

Map: Lleoliadau Croeso Cynnes

Bydd lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd. Os ydych angen yr wybodaeth mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni: croesocynnes@gwynedd.llyw.cymru

 



Ydych chi'n cynnig Croeso Cynnes?

Os ydych chi'n sefydliad, ganolfan gymunedol neu yn fusnes lleol, sy'n cynnig gofod ar gyfer cynnig ”Croeso Cynnes” gadewch i ni wybod er mwyn i ni eich cynnwys ar y map.

Ffurflen cofrestru eich sefydliad 

Os ydych eisiau gwybod mwy am sefydlu lle i gynnig Croeso Cynnes, cysylltwch â ni: croesocynnes@gwynedd.llyw.cymru

Cronfa grant Croeso Cynnes

Ydych chi'n Grŵp Cymunedol sydd yn darparu gofod cyfarfod ac yn awyddus i ehangu ar y cyfleoedd rydych yn eu cynnig? Mae grantiau o rhwng £1,000 a £5,000 ar gael i'ch cefnogi.

Mae'r manylion llawn i'w gweld yn y canllawiau isod: 

Canllawiau cronfa grant Croeso Cynnes

I wneud cais, bydd angen llenwi'r ffurflen gais isod a'i dychwelyd drwy e-bost i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen gais.

Dyddiad cau: 8 Rhagfyr 2022

Am fwy o wybodaeth am y gronfa cysylltwch â: