Cyngor i ddefnyddwyr

Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio i helpu hyrwyddo amgylchedd masnachu teg a diogel ar draws Wynedd.  Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi cwsmeriaid yn ogystal â busnesau mewn ffordd ddiduedd.  Ein rôl yw diogelu buddiannau defnyddwyr a busnesau cymuned y Sir.

Cysylltu â ni:

Ymholiad ar-lein: safonau masnach

Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach

Cysylltwch â ni os ydych eisiau cymorth neu eisiau rhoi gwybod i ni am unrhyw ymarferiad troseddol neu anonest, gan gynnwys:

  • Masnachu twyllodrus
  • Gwerthiant nwyddau peryglus
  • Clocio ceir
  • Nwyddau ffug
  • Gwerthiant o alcohol a thybaco i bobl o dan 18 oed
  • Materion lles da byw
  • Cam-ddisgrifiad o nwyddau
  • Bwyd allan o ddyddiad
  • Siarc-benthyciadau
  • Sgamiau a thwyll
  • Hysbysebu a disgrifiad o’r nwyddau neu’r gwasanaeth
  • Diogelwch nwyddau defnyddwyr
  • Gwerthwyr tai
  • Credyd a benthyciadau
  • Cyfarpar pwyso a mesuriadau
  • Dilysnodau a nwyddau ffug
  • Iechyd anifeiliaid
  • Gwerthiant dan oed
  • Prisio
  • Trwyddedu storfeydd tân gwyllt a gorsafoedd petrol

Manylion Cyswllt

Ymholiad ar-lein: safonau masnach

Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach


Ffôn:
 01766 771 000
Cyfeiriad: Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Mae'r holl wybodaeth a dderbyniwn yn cael ei gofnodi ar ein systemau ar gyfer dadansoddi a lle bod angen bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal. Cysylltwch a Chyngor ar bopeth am gyngor diduedd am ddim pellach:

  • Ffôn: 03454 04 05 05

Yn ei dro, bydd y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn rhoi gwybod i'r Uned Safonau Masnach am unrhyw gwyn sy'n gofyn am weithred bellach gan ein gwasanaeth.

Rydym yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr trwy:

  • Gwasanaeth wyneb i wyneb i bobl hŷn neu fregus (ar gael drwy apwyntiad yn unig)
  • Ymweliadau cartref i’r bregus (gall gynnwys cymorth i ysgrifennu llythyrau a gwirio gwaith papur)
  • Deunyddiau addysgiadol, digwyddiadau, gwaith estyn a sioeau teithiol.

 Cysylltwch â ni:

Ymholiad ar-lein: safonau masnach

Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach


Clefyd feirysol hynod heintus yw ffliw adar. Mae canllawiau a gwybodaeth am wasanaethau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mwy o wybodaeth 

Os oes gennych chi unrhyw bryder ynghylch eich adar, cysylltwch â’ch milfeddyg i dderbyn cyngor. 

Mae sawl peth i'w ystyried cyn prynu ci bach ond mae'n bwysig nad ydych yn cael eich twyllo gan ffermwyr cŵn anghyfreithlon.

  • Gall prynu gan ffermwyr cŵn bach anghyfreithlon (yn aml ar y wê) feddwl eich bod yn fwy tebygol o brynu ci sy’n wael.
  • Ewch i weld y ci ardef gyda’i fam i weld sut mae;r ci yn ymddwyn. Os oes amheuaeth am yr amgylchiadau, peidiwch â phrynu’r ci.
  • A ydych yn prynu gan fridiwr sicr “Kennel Club”? Mae rheolau iechyd ganddynt.
  • Dylai cŵn bach fod o leiaf 15 wythnos oed. Os yn iau mae’n anghyfreithlon ac efallai caiff ei gymeryd oddi arnach.
  • Byddwch yn barod i aros ar restr – mae ci iach yn werth disgwyl amdano.
  • Byddwch yn amheus os yw’r bridiwr yn gwerthu nifer o wahanol brîdiau, heblaw eich bod yn sicr o ohonynt.
  • Gofynnwch i weld tystysgrifau iechyd am rieni’r ci.
  • Ewch at fridiwr dibynadwy a chyfrifol.
  • A ydych wedi ystyried ailgartrefu ci sy’n hŷn? Ewch at eich canolfan achub anifeiliaid lleol.
  • Peidiwch â phrynu ci o siop anifeiliaid, maes parcio neu orsaf gwasanaethau.

Sut fedrwch chi ddod o hyd i fasnachwr dibynadwy?

Ydych chi’n chwilio am fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo?

Prynu efo Hyder yw un o'r cynlluniau masnachu gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae Safonau Masnach Gwynedd wedi cyflwyno Prynu efo Hyder er mwyn cael rhestr o fasnachwyr cymeradwyol i ddefnyddwyr a fydd yn eich diogelu chi fel cwsmer. 

Gwybodaeth Bellach

Byddwch yn ofalus rhag cael eich twyllo gan siarcod benthyca arian! 

Am gyngor, ewch i:

Beth yw nwyddau ffug?

Nwyddau sydd wedi eu creu i edrych fel nwyddau cofrestredig yn fwriadol yw nwyddau ffug. Mae nwyddau ffug yn broblem cenedlaethol ac mae mwy a mwy o nwyddau ffug ar gael. Gall nwyddau ffug gael eu hadnabod fel 'pirated','replicas' neu 'copiau'. Gall nwyddau ffug gynnwys dillad, gemwaith, offer trydanol, persawr, batris ceir, teganau plant a llawer mwy.

Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn cael bargen, ond byddwch yn wyliadwrus.  Nid yw cwmnïau mawr yn rhoi gostyngiadau sylweddol ar eitemau, a gallech gael eich twyllo i dalu swm sylweddol o arian am eitem peryglus neu israddol. 

Pam na ddylech brynu nwyddau ffug? :

Torri'r gyfraith
Os yw cwmni wedi cofrestru dyluniad/logo eu eitem, yna byddai’n anghyfreithlon prynu nwyddau ffug sydd yn defnyddio yr un dyluniad/ logo (trademark) a’r cwmni yna heb eu caniatâd. Mae prynu nwyddau ffug gan droseddwyr yn rhoi mwy o arian iddynt barhau i dwyllo cwsmeriaid.

Eich diogelwch chi

Yn y rhan fwyaf o achosion mae nwyddau ffug yn rai o ansawdd gwael ac yn beryglus-

  • Dillad plant – ni fydd dillad ffug  plant wedi eu profi yn unol â deddfwriaeth diogelwch - os o gwbwl
  • Sbectol haul – efallai na fyddent yn amddiffyn eich llygaid rhag belydrau niweidiol
  • Offer trydanol – Efallai nad ydynt wedi eu profi yn unol â deddfwriaeth diogelwch - os o gwbl

Os yn prynu nwyddau ffug dros y we rydych mewn perygl o rhyddhau gwybodaeth amdanoch chi eich hun neu eich manylion banc i droseddwyr.

Trefn gwyno

Mae nwyddau ffug yn cael eu gwerthu am bris rhatach na'r nwyddau gwreiddiol felly mae'n golygu fod ansawdd nwyddau ffug yn salach. Nid oes gan cwmnïau sydd yn gwerthu nwyddau ffug unrhyw fath o drefn gwyno, a byddech yn annhebygol o dderbyn unrhyw fath o iawndal ariannol os wedi derbyn nwyddau diffygiol neu israddol.

Effeithio'r economi lleol

Mae prynu a gwerthu nwyddau ffug yn cael effaith ar fusnesau gonest. Achosai hyn effaith ar yr economi leol e.e siopau/ ffatrïoedd yn cau, diswyddiadau.

Nwyddau Ffug a'r Gyfraith

Mae'n debygol iawn fod pobl sydd yn creu nwyddau ffug drwy ddefnyddio Nodau Masnach sydd wedi ei gofrestru pan nad ydynt wedi ei awdurdodi, mwy na thebyg yn torri'r gyfraith o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994  neu o dan y  Rheoliadau Diogelu’r Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.  

Sut allaf amddiffyn fy hyn?

  • Os yn prynu ar-lein, gwiriwch yr URL, yn aml bydd gwallau sillafu yn yr URL ac yn y wefan
  • Gwiriwch lle mae'r masnachwr wedi ei leoli. Byddwch yn wyliadwrus os nad oes cyfeiriad llawn, a mai dim ond e-bost neu cyfeiriad PO BOX sydd ar gael.
  • Os yn gwneud taliad ar-lein, gwiriwch fod URL y dudalen yn cychwyn gyda 'https'
  • Os yn defnyddio gwefan am y tro cyntaf – gwnewch waith ymchwil.  Mae pobl yn barod i hysbysu pobl eraill o beryglon mewn fforwm ar-lein.
  • Peidiwch ac agor lincs mewn e-byst
  • Sicrhewch fod eich meddalwedd diogelwch wedi ei ddiweddaru
  • Peidiwch a chymryd yn ganiataol fod gwefan '.co.uk' wedi ei leoli ym Mhrydain. Mae troseddwyr wedi datblygu ffyrdd i newid gwir leoliad ble maent yn gweithredu.

Gwefannau Defnyddiol

 

Cysylltu â ni

Peidiwch a twyllo'ch hun, prynwch nwyddau dilys a rhowch wybod i ni am eitemau ffug: Ymholiad ar-lein: safonau masnach

Adrodd pryder ar-lein: safonau masnach