Planhigion Ymledol

Mae rhywogaeth ymledol anfrodorol yn un sydd wedi'i gludo allan o'i gynefin naturiol ac sydd wedyn yn peryglu adnoddau amgylcheddol, amaethyddol ac economaidd yn y cynefin newydd.

Mae planhigion ymledol yn rhai ymosodol ac yn tueddu i oresgyn fflora brodorol mewn nifer o gynefinoedd gwahanol, gan gynnwys pyllau, ffosydd, nentydd, coedlannau, tiroedd glas ac ymylon ffyrdd. Gan nad oes bron ddim yn bwydo arnynt, maent yn trechu planhigion brodorol ond heb fod o fawr werth fel ffynhonnell bwyd i ffawna brodorol.

Mae'r rhestr isod yn nodi'r planhigion sydd yn achosi fwyaf o bryder yma yng Ngwynedd:

Planhigion Tir

Llysiau'r Dial (Fallopia japonica)
Rhododendron (Rhododendron ponticum
Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera)   
Efwr Enfawr (Heracleum mantegazzianum)

Planhigion Dyfrol

Dail Ceiniog Arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
Briweg y Gors Awstralia (Crassula helmsii)
Dail Parot (Myriophyllum aquaticum)
Rhedyn y Dŵr (Azolla filiculoides)


Cofnodi planhigion ymledol

Mae Mapiwr INNS (Invasive Non-Native Species) yn annog unrhyw un sydd yn dod ar draws planhigion ymledol i roi gwybod iddyn nhw er mwyn eu helpu i gydlynu rheolaeth effeithiol ar INNS.

Rhoi gwybod am blanhigion ymledol 

 

Ffactorau sy'n achosi ymlediad y planhigion hyn yng Ngwynedd

  • Planhigion dieithr yn cael eu cario ar esgidiau, mewn ceir neu gyda nwyddau a werthir
  • Planhigion yn cael eu gwerthu fel planhigion addurnol mewn canolfannau garddio a / neu eu plannu’n fwriadol mewn gerddi
  • Diffyg gelynion naturiol penodol megis anifeiliaid sydd yn pori a phathogenau
  • Gwasgaru hadau mewn afonydd
  • Symud pridd a / neu ddeunydd wedi ei ddifwyno oddi ar safleoedd sydd wedi eu heffeithio
  • Symud peiriannau ac offer wedi eu difwyno rhwng systemau dŵr. Er enghraifft, cychod, offer pysgota
  • Gwaredu anaddas a / neu anghyfreithlon o doriadau, yn enwedig canclwm Japaneaidd. Er enghraifft, taflu ysbwriel.
  • Gweithgareddau sydd yn aflonyddu ar lystyfiant a’r pridd oddi tano
  • Effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd. Mae amodau fel tymheredd uwch, crynodiadau carbon deuocsid uwch a thywydd mwy stormus yn fwy ffafriol i rywogaethau anfrodorol. Er enghraifft, mae gaeafau cynhesach yn gymorth i’r rhedyn dŵr gynyddu.