Baw cŵn

I wneud cwyn am faw cŵn cysylltwch â'r Cyngor drwy lenwi ein ffurflen ar-lein:

Adrodd am faw cŵn

Bagiau baw ci am ddim

Mae bagiau ar gael i bigo fyny o'r lleoliadau isod:

  • Siop Gwynedd Pwllheli
  • Siop Gwynedd Caernarfon
  • Siop Gwynedd Dolgellau
  • Llyfrgell Bangor

Gallwch roi eich bagiau baw ci mewn bin sbwriel cyhoeddus, bin baw ci a bin olwyn gwyrdd.


Baw ci - dirwy am beidio â glanhau

Os bydd ci yn baeddu mewn man cyhoeddus, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i’r perchennog neu’r unigolyn sy’n gofalu am y ci ar y pryd glirio ei faw.

Bydd Swyddogion Cyngor Gwynedd yn rhoi dirwy i unrhyw un sydd ddim yn codi baw ei gi.

Dirwy: £100, £75 os yn talu o fewn 10 diwrnod.  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen gorchmynion rheoli cŵn.

 

Mwy o wybodaeth

Ffoniwch 01766 771000.