Cŵn peryglus
Os yw ci wedi ymosod ar rywun neu ar anifail arall, mae’n fater i’r heddlu a dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Ffoniwch 101 (neu 999 mewn argyfwng yn unig).
Os ydych yn poeni fod ci'n beryglus rhowch wybod i ni. Ceisiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib am y ci - brid, lliw, lleoliad ac ati:
Perchnogion cŵn peryglus
Mae mathau penodol o gŵn wedi’u gwahardd o’r Deyrnas Unedig. Mae'n drosedd bod yn berchen ar gi sydd wedi ei wahardd ac heb ei gofrestru.